Angen, nid dewis, yw’r Gymraeg – Comisiynydd y Gymraeg

Yr wythnos hon mae Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, yn arwain ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o’r angen i ddatblygu gweithlu dwyieithog yn y sector iechyd yng Nghymru.

Dr Llinos Roberts wrth ei gwaith.

Lleisiau cleifion, teuluoedd a gweithwyr iechyd sydd i’w clywed yn yr ymgyrch yn dweud faint o wahaniaeth all gwasanaeth Cymraeg ei wneud i’r diagnosis, y driniaeth a’r gofal.

Un gweithiwr iechyd sy’n rhannu ei phrofiadau yw Dr Llinos Roberts, meddyg teulu yn ardal Cross Hands a’r Tymbl. Mae ganddi nifer o enghreifftiau o achosion lle mae cyfathrebu yn Gymraeg wedi profi’n hollbwysig i’w dealltwriaeth hi o sefyllfa claf. Un enghraifft sy’n sefyll allan yn ei chof oedd pan ddaeth dyn ifanc ati oedd wedi bod yn byw efo symptomau o iselder ers rhai misoedd.

Eglura Dr Llinos:

“Wrth sgwrsio, mi ddywedodd wrtha i ei fod wedi cael teimladau o fod isio niweidio ei hun a theimladau o isio diweddu ei fywyd. Wrth gwrs, roedd rhain yn deimladau sensitif, ac wedi bod yn anodd iawn iddo fo’u mynegi yn ystod y sgwrs efo fi.

Roedd o wedi gweld doctor arall ychydig wythnosau cynt, ac mi wnaeth o gyfaddef wrtha i nad oedd o wedi trafod y teimladau yma efo’r meddyg hwnnw am un rheswm, ac un rheswm yn unig, sef nad oedd y sgwrs yna wedi ei chynnal drwy gyfrwng y Gymraeg. Doedd o ddim wedi teimlo’n gyfforddus a hyderus i drafod y materion yma’n Saesneg.

“Roedd y ffaith ei fod o wedi dweud wrtha i a thrafod y materion yma efo fi wedi ngalluogi fi fel meddyg i gynnig y gofal meddygol gorau iddo fo. Heb wybod y manylion yna, bydden i wedi methu â gwneud hynny.”

Gallwch wylio’r fideo o Dr Llinos Roberts yn siarad yma.

Ers 30 Mai eleni, mae dyletswydd ar fyrddau iechyd yng Nghymru i ddarparu rhai gwasanaethau yn Gymraeg i gleifion. Un o’r pethau sy’n rhaid iddynt ei wneud yw cadw cofnod gyfredol o sgiliau iaith y gweithlu. Ar hyn o bryd mae’r ffigurau yn dangos fod yr wybodaeth am sgiliau iaith y gweithlu’n anghyflawn a phytiog. Mae hyn yn ei gwneud hi’n anodd iawn sicrhau fod staff sy’n gallu siarad Cymraeg yn gofalu am y cleifion sydd angen siarad yr iaith.

Mae’r sgiliau ieithyddol yn amrywio o fod yn gallu dweud cyfarchiad syml i fod yn rhugl ond mae’r Comisiynydd yn annog rheiny sydd wedi colli eu hyder i siarad yr iaith i geisio adfer y sgil trwy ddilyn cyrsiau sy’n cael eu cynnig gan y byrddau iechyd.

Meddai Aled Roberts,

“Rydw i wedi cyfarfod â nifer o bobl sy’n gweithio yn y maes gofal a iechyd, sydd unai’n siomedig na chawson nhw addysg cyfrwng Cymraeg neu sydd wedi colli eu hyder i ddefnyddio’r iaith ers gadael yr ysgol. Rwy’n galw arnynt i gysylltu â swyddogion iaith o fewn eu sefydliad a holi am y cyfleoedd sydd yna i ddysgu neu ailddysgu’r iaith.

“Hoffwn hefyd weld plant a phobl ifanc yn cael eu hannog i ddilyn gyrfa yn y gwasanaeth iechyd, lle mae angen dirfawr amdanynt. Mae’n rhaid i ni gynllunio at y dyfodol i sicrhau fod gennym weithlu dwyieithog all ateb y galw. Wedi’r cyfan, angen nid dewis yw iaith.

#angenniddewis

comisiynyddygymraeg.cymru/maegenihawl

image_pdfPDFimage_printArgraffu
Rhannu

Gadael Ymateb