Adar ac iechyd meddwl : Telegraph
Mae gwylio adar yn yr ardd yn dda i’ch iechyd meddwl, yn ôl gwaith ymchwil.
Gall gweithwyr mewn swyddfa ymlacio i leihau straen drwy edrych ar adar o’u ffenest, awgryma astudiaeth ar ôl canfod ei fod yn gwneud pobl yn llai pryderus ac isel. Mae medru gweld adar, llwyni a choed yn medru helpu iechyd meddwl, hyd yn oed os nad ydy pobl yng nghefn gwlad, yn ôl academyddion.
Darganfu’r astudiaeth, a oedd yn cynnwys 270 o ardaloedd o gwmpas Bedford, Luton a Milton Keynes, fod lefelau is o iselder, gorbryder a straen yn gysylltiedig â’r nifer o adar roedd pobl yn eu gweld yn y prynhawn.
Darganfu’r ymchwilwyr hefyd fod pobl sy’n treulio llai o amser tu allan nawr nag oeddent yn ei wneud yn fwy tebygol o deimlo’n bryderus neu yn isel. Dengys astudiaethau blaenorol bod y newid hwn oherwydd bod pobl yn ymlacio ac yn teimlo’n gysylltiedig â natur pan maent yn edrych ar adar a choed.