Sgwrs a sesiwn ffitrwydd
Sgwrs a Sesiwn Ffitrwydd gyda Elin o WINNINGWITHAY.
Mae llawer mwy i ffitrwydd na dim ond cadw’n heini. Mae’n wych i’r meddwl, mae’n magu cryfder a hunan hyder a llawer mwy! Diolch i Elin am rannu’r cyfan gyda ni.
*Cyn ymuno yn yr ymarferion, sicrhewch eich bod yn teimlo’n gorfforol iach a bod yr ardal ymarfer yn wastad ac yn glir o unrhyw rwystrau. Bydd angen dwr a dillad ac esgidiau addas! Joiwch!
Roedd y sesiwn yn rhan o gyfres #MawrthMeddwl, sef digwyddiadau ymlaciol a sgyrsiau ynghylch lles, ar ein tudalen Facebook am 8pm ar nos Fawrth olaf bob mis.