Hypnotherapi gyda Helen Howells

Ymunwch gyda Helen Howells o gwmni Hwylus, ar gyfer sesiwn hypnotherapi er mwyn ymlacio’r corff a’r meddwl.

Bydd y sesiwn yn ffocysu ar ddysgu sut i ymlacio’r meddwl ac yn eich paratoi ar gyfer noson dda o gwsg. Mae hypnotherapi yn eich arwain i ymlacio yn ddwfn, ac yn eich cefnogi i ffocysu ar amcanion penodol – yn y sesiwn yma, byddwn yn paratoi eich is-ymwybod i gysgu. Mae Helen yn Ymarferydd Meistr NLP ac yn Ymarferydd Meistr Hypnosis.

Mae’r sesiwn yn rhan o’n cyfres #MawrthMeddwl, sef digwyddiadau bob nos Fawrth am 8pm ar ein tudalen Facebook er mwyn helpu i ymlacio’r corff a’r meddwl.

Rhannu

Gadael Ymateb