Bath Sain i’r Teulu gyda Gill Evans
Dewch i fwynhau ac ymlacio trwy ddefnyddio eich llais. Yn ystod y sesiwn ymarferol bydd Gill yn dangos inni sut i wneud ymarferion syml gyda’n llais er mwyn ymlacio, rhyddhau straen a thawelu’r meddwl. Addas i bawb yn y teulu.
Mae’r sesiwn yn rhan o’n cyfres #MawrthMeddwl, sef digwyddiadau bob nos Fawrth am 8pm ar ein tudalen Facebook er mwyn helpu i ymlacio’r corff a’r meddwl.