Bath sain gyda Gill Evans

Ymunwch a Gill Evans i fwynhau bath sain ymlaciol fydd yn siwr o arwain at noson braf o gwsg. Does dim angen unrhyw offer, ond bydd angen gofod cyfforddus i orwedd neu eistedd ac ymlacio.

Mae’r sesiwn yn rhan o’n cyfres #MawrthMeddwl, sef digwyddiadau bob nos Fawrth am 8pm ar ein tudalen Facebook er mwyn helpu i ymlacio’r corff a’r meddwl.