Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn pwysleisio pwysigrwydd y Gymraeg

Fel rhan o ddiwrnod Cenedlaethol #AmseriSiarad mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn lansio fideo newydd er mwyn pwysleisio pwysigrwydd derbyn gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae diwrnod #Amserisiarad, sy’n cael ei gynnal ar y 1af o Chwefror yn ymgyrch genedlaethol sy’n annog pobl Cymru i siarad am iechyd meddwl gan geisio taclo’r stigma sydd ynghlwm.

Mae’r fideo yn canolbwyntio ar Siôn Davies o Fronant, Ceredigion. Mae gan Siôn anableddau dysgu ac mae wedi derbyn therapi o ganlyniad i orbryder. Yn y fideo mae Siôn a’i fam Lynda yn sôn am eu profiad o dderbyn therapi yn gyntaf oll yn Saesneg, ac yna’r gwahaniaeth o dderbyn therapi yn iaith gyntaf Siôn.

Dywedodd Lynda, mam Siôn:

“Roedd cael y cyfle i dderbyn triniaeth i Siôn yn Gymraeg yn werthfawr tu hwnt. Roedd hi’n sicr yn haws iddo esbonio ei deimladau a heb os roedd y cyfathrebu yn well yn gyfangwbl.”

Dywedodd Luned Mair, Seicolegydd Cynorthwyol, BIP Hywel Dda:

“Cefais y profiad o ddarparu triniaeth yn Gymraeg yn ddiweddar. O safbwynt y defnyddiwr, teimlaf fod y perthynas therapiwtig wedi’i sefydlu’n gynt ac yn fwy effeithiol. Roedd y therapi yn datblygu’n well na pe byddai’r un therapi wedi’i gynnig mewn ail iaith.”

Mae’r BIP Hywel Dda wedi ymrwymo i wella darpariaeth Cymraeg i gleifion a’r gobaith yw bydd y fideo hwn yn cynorthwyo i hyfforddi staff a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gwasanaethau yn newis iaith ein defnyddwyr gwasanaeth.

Darllen rhagor: Bwrdd Iechyd Hywel Dda