Mis Ymwybyddiaeth Straen

Fel meddyg ifanc sydd ar fin cymhwyso fel meddyg teulu, mae iechyd meddwl yn chwarae rhan blaenllaw yn fy mywyd proffesiynol bob dydd. Meddygon teulu a’u timoedd sy’n gyfrifol am ofalu am 90% o broblemau iechyd meddwl y boblogaeth.

Mae oddeutu 30% o apwyntiadau i weld meddygon teulu yn ymwneud â iechyd meddwl mewn un ffordd neu’r llall. Mae hyn yn dangos pa mor gyffredin ydyw ac yn pwysleisio’r angen sydd i geisio gwella’r sefyllfa.

Mae sawl ffordd gwahanol all iechyd meddwl amlygu ei hun. Un agwedd o iechyd meddwl sydd yn dod i’n sylw ni fel meddygon yn aml ydy straen. Beth ydy straen tybed?

Yn syml, straen ydy’r anghydbwysedd rhwng y galwadau arnom ni a’n gallu i ymdopi â’r galwadau hyn.

Ers 1992, mae mis Ebrill yn flynyddol yn cael ei benodi fel Mis Ymwybyddiaeth Straen.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae un arolwg wnaeth gasglu data oddi wrth 2000 o bobl Prydeinig, wedi datgelu bod 65% o bobl yn y Deyrnas Unedig wedi teimlo cynnydd yn y straen mae nhw’n ei deimlo ers dechrau’r cyfyngiadau clo ym mis Mawrth 2020. Y tri prif reswm am y cynnydd yma mewn straen ydy teimladau o golli cysylltiad, ansicrwydd a phoeni am golli rheolaeth.

Mae straen achlysurol yn chwarae rôl bwysig ac yn un o’r ffyrdd naturiol sydd gyda’n cyrff ni i ymdopi’n effeithiol mewn argyfwng. Ond pan fo’r straen yma yn gyson ac yn gwrthod lleihau, dyna pryd allwn brofi anawsterau.

Gall straen amlygu ei hun mewn nifer o wahanol ffyrdd a gall fod yn wahanol o berson i berson hefyd. Dyma ychydig o’r arwyddion a’r symptomau allai gael eu hamlygu gan straen:

  • Newid mewn hwyliau
  • Diffyg canolbwyntio
  • Blinder
  • Problemau cysgu
  • Problemau anadlu e.e. gor-anadlu (“hyperventilation”)
  • Teimlo’n sâl neu’n ben-ysgafn
  • Pennau tost/ cur pen
  • Cyhyrau tynn

Yn ogystal â’r symptomau corfforol, gall straen achosi rhywun i deimlo’n wahanol hefyd a gall hyn amrywio o berson i berson unwaith eto.

Dyma ychydig o gynghorion oddi wrth y “Stress Management Society” am sut i ymdopi â straen:

  • Siarada am straen a’i effeithiau arnat. Mae’n bwysig ein bod yn cyd-weithio i leihau’r stigma sydd ynghlwm â straen drwy siarad yn agored gyda’n ffrindiau, teulu a chyd-weithwyr.
  • Rhanna dy ffyrdd o ymdopi â straen gydag eraill- mae’n bosib bydd rhywun arall yn gallu elwa o dy brofiad di.
  • Bydd yn garedig.
  • Edrych ar ôl dy hun- ceisia benodi amser yn y dydd i ymlacio neu i wneud rhywbeth rwyt ti’n ei fwynhau. Paid anghofio ymarfer corff a bwyta’n dda er dy fod yn teimlo dan straen.
  • Mae dysgu dweud “na” i bethau pan fo’r gofynion arnat ti yn cynyddu yn holl-bwysig hefyd.

Os wyt ti byth yn teimlo bod straen yn effeithio ar dy iechyd corfforol neu yn ei gweld hi’n anodd ymdopi neu yn methu dod o hyd i ffyrdd effeithiol o ddygymod â’r straen, cofia ofyn am gymorth. Mae dy feddyg teulu yn rywun da i droi ato neu cymer bip ar wefan meddwl.org am restr o sefydliadau all estyn cymorth.

Diolch i wefannau RCGPstress.org am rai o’r ffeithiau yn yr erthygl.

Dr Angharad Wyn