Llifogydd ac iechyd meddwl
Gall profi llifogydd fod yn frawychus, ac yn aml gall darfu ar weithgareddau bywyd o ddydd i ddydd. Yn ogystal â’r difrod i eiddo, mae yn aml hefyd ergyd feddyliol.
Mewn erthygl ar wefan y BBC, dywedodd Dr Sarah Jones, ymgynghorydd ym maes iechyd cyhoeddus amgylcheddol:
“Gall dŵr llifogydd gynnwys pob math o bethau a all achosi niwed i ni, o chwilod i sblintiau a hyd yn oed ceblau trydan, felly mae’n bwysig cadw draw,”
“Rydyn ni’n awyddus iawn bod pawb yn y cymunedau sydd wedi eu heffeithio yn gofalu am ei gilydd,”
“Rydyn ni eisoes yn gweld enghreifftiau gwych o sut mae cymunedau’n dod ynghyd i helpu gyda’r gwaith glanhau, gan ddarparu cawodydd a llefydd cynnes i aros. Mae hwn yn amser i bawb ddod ynghyd.”
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog y rhai sydd wedi eu heffeithio i beidio â thanbrisio’r straen a’r pwysau ar les eu teuluoedd, gan ddweud hefyd:
“Peidiwch â’i gorwneud hi wrth lanhau. Mae blinder, trafferth cysgu a gorbryder yn arferol o dan yr amgylchiadau hyn.”
Mewn taflen ar lifogydd ac iechyd meddwl, dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru y gall digwyddiadau sy’n dilyn y llifogydd hefyd achosi straen, yn ogystal â’r llifogydd ei hun. Maent yn cynnwys:
- Anhawster cael gofal iechyd parhaus a meddyginiaethau presgripsiwn;
- Anhawster cael gofal iechyd ar gyfer problemau iechyd newydd;
- Amharu ar weithgareddau arferol y cartref a chael eich rhannu oddi wrth deulu a ffrindiau;
- Colli adnoddau, ac amharu ar bresenoldeb, yn yr ysgol;
- Teimladau o golli rheolaeth a phoeni y gall llifogydd ddigwydd eto;
- Ceisio iawndal, adfer ac ailadeiladu cartrefi, ymgeisio am yswiriant, colli gwaith a / neu incwm, a cholli eiddo.
Er bod llifogydd yn peri gofid a straen, lleiafrif bach yn unig sydd mewn perygl o ddatblygu anhwylder iechyd meddwl. Os bydd eich symptomau’n parhau, dylech ymweld â’ch meddyg teulu a all helpu i ddod o hyd i gymorth pellach.
[Ffynonellau: BBC a Iechyd Cyhoeddus Cymru]