Ail-ddysgu sut i gymdeithasu (pan fyddwn ni allan o ymarfer)

Mae’r erthygl hon yn wreiddiol am sut i gymdeithasu eto ar ôl cyfnod o iselder, ond mae’r wybodaeth yn ddefnyddiol hefyd ar gyfer y rhai ohonom sy’n dechrau dod i’r arfer â chymdeithasu eto ar ôl y cyfnod clo.

Pan fyddwn ni wedi bod yn byw efo iselder neu gyflwr iechyd meddwl arall ers tro, mae’n hawdd teimlo’n ynysig. Yn aml gall pobl drio aros mewn cysylltiad â ni, ond efallai ein bod yn eu gwthio i ffwrdd ac yn stopio mynd i ddigwyddiadau cymdeithasol nes y gall gyrraedd pwynt ble prin y gwelwn ni neb tu allan i’n tŷ ein hunain. Yn y pen draw, efallai ein bod yn dymuno dechrau cymdeithasu eto, ond pan nad ydym wedi cymdeithasu ers tro gallwn deimlo ychydig ‘allan o ymarfer’.

Dychwelyd i gymdeithasu

Mae dychwelyd i gymdeithasu yn anodd. Pan y byddwn yn sâl, gall ein byd fynd yn llai a llai. Gall ein ardal gysur (comfort zone) leihau i waliau ein tŷ, neu hyd yn oed ein ystafell wely. Gall y byd tu allan deimlo yn swnllyd, prysur ac anrhagweladwy.

Gall cychwyn gadael y tŷ eto ar ôl cymaint o amser yn ein amgylchedd rheoledig ein llenwi gyda gorbryder. Gallwn boeni ein bod wedi anghofio beth i’w wneud, beth i’w ddweud a sut i ymddwyn.

Paid â thanamcangyfrif faint o egni mae’n ei gymryd

Mae cymdeithasu yn cymryd egni, yn enwedig i ddechrau. Gall ein ymennydd orfod prosesu sawl peth ar unwaith – sŵn, arogl, pobl, gwedd, sgwrs a hyd yn oed blas. Efallai ei bod hi’n syniad i ni ganolbwyntio ar sgwrs ac ar yr hyn yr ydym yn ei wneud – mae canolbwyntio yn gallu bod yn her pan mae gennym iselder.

Pan y byddwn yn dysgu sgil am y tro cyntaf fel gyrru car neu reidio beic mae’n rhaid i ni feddwl am pob symudiad yr ydym yn ei wneud. Unwaith y byddwn wedi cael digon o ymarfer gallwn ei wneud heb feddwl a medru siarad a gwrando ar yr un pryd. Ond os nad ydym yn gwneud y sgil am gyfnod, yna mae’n rhaid i ni feddwl amdano yn ofalus pan byddwn yn dychwelyd i’w wneud – os nad ydym wedi gyrru ers blwyddyn yna byddwn yn debygol o ddefnyddio’r ffyrdd tawelach a diffodd y radio ar gyfer ein teithiau cyntaf tra byddwn yn ailgyfarwyddo â gyrru. Gallwn feddwl am gymdeithasu yn yr un modd. Pan y byddwn wedi arfer cymdeithasu, ni fyddwn yn hyd yn oed meddwl am rhai pethau – mae nhw’n digwydd yn naturiol. Ond pan y byddwn yn ail-ddysgu sut i gymdeithasu efallai bod yn rhaid i ni feddwl am ble i roi ein dwylo, efallai ein bod yn gor-feddwl yr hyn yr ydym yn ei ddweud, efallai y bydd yn rhaid i ni ail-ddysgu sut i adnabod pan mae pobl yn bod yn sarcastig, neu yr hyn mae rhai mynegiant gwyneb yn ei olygu. Efallai bod gan ein ffrindiau arferion penodol mewn sgwrs y mae’n rhaid i ni ddod i’r arfer â hwy eto.

Gall yr holl bethau hyn fod yn hollol flinedig, yn enwedig i ddechrau, ac ar ôl cyfnod byr o amser, efallai y bydd yn rhaid i ni fynd adref i orffwys. Mae’n bwysig bod gennym ddigon o amser i ymlacio yn dilyn ein amser yng nghwmni pobl er mwyn ein galluogi i ni ddod yn ôl at ein hunain.

Cychwyn yn araf

Pan y byddwn yn ail-ddysgu cymdeithasu, mae angen i ni ystyried ble y byddwn yn dechrau ohono. Efallai ein bod wedi arfer gyda mwynhau i’r eithaf cyn mynd yn sâl, ond hyd yn oed os oedd y fersiwn ‘blaenorol’ ohonom yn arfer bod allan yn dawnsio a mwynhau pob noson o’r wythnos, mae’r fesiwn ‘presennol’ ohonom yn parhau i fod angen adeiladu pethau i fyny yn araf.

Gallai fod yn neis gwahodd un neu ddau/ddwy o ffrindiau draw i gychwyn. Fel hyn gallwn reoli’r amgylchedd y byddwn yn eu gweld, a gobeithio, gyda dim ond dau/dwy berson, mi fedrwn reoli ein lefelau o orlethu. I’r rhai ohonom, gall cyfarfod yn ein tŷ ein hunain fod yn rhywbeth na fyddwn eisiau ei wneud oherwydd ein bod eisiau cadw ein tŷ fel ein man diogel o’r byd. Os hynny, gallwn ofyn i gyfarfod yn nhŷ un o’n ffrindiau.

Ymlaen o hynny, gallwn ddechrau cyfarfod mewn lleoliadau mwy cyhoeddus. Gall fod yn gynllun da i gyfarfod mewn lleoliadau tawelach neu ar amseroedd tawelach o’r diwrnod, i gychwyn, yn hytrach ‘na ceisio mynd yn syth i ganol lle prysur ar ganol prynhawn Sadwrn.

Gall adeiladu yn araf ar y nifer o bobl y byddwn yn ei weld, hyd yr amser y byddwn yn eu gweld, prysurdeb y llefydd y byddwn yn mynd iddyn nhw a faint mor aml y byddwn yn mynd, fod o gymorth i gymdeithasu beidio teimlo mor bryderus ac ofnus. Mae angen i ni wrando ar ein corff a chymryd yr awenau. Efallai y bydd amseroedd ble byddwn yn rhwystredig gyda pa mor araf y mae pethau yn symud, ond os byddwn yn ceisio gwthio pethau yn rhy gyflym mae’n debygol mai’r holl y byddwn yn ei gyflawni ydi llosgi ein hunain allan a torri ein hyder.

Cael cynllun

Er ein bod methu cynllunio ar gyfer pob sefyllfa mewn bywyd, yn enwedig yn ystod y cyfnod sydd ohoni, mi fedrwn ni gynllunio rhai pethau penodol er mwyn gwneud digwyddiadau cymdeithasol ychydig yn rhwyddach. Gall fod yn help i gynllunio ein amseroedd a‘n teithio y diwrnod cyn i ni wneud rhywbeth ac i’w ysgrifennu nhw lawr fel nad oes rhaid i ni boeni amdanynt. Efallai bod gennym ymarferion penodol ar gyfer rheoli ein gorbryder. Efallai bydd rhai ohonom yn dymuno cael ‘cynllun ymadael brys’ – cynllun er mwyn gadael y sefyllfa petai popeth yn mynd yn ormod.

Cwrdd a gwneud rhywbeth

Gall cwrdd â ffrindiau am sgwrs fod yn ddwys iawn. Os y byddwn yn cwrdd ar gyfer sgwrsio, gall cyfarfod mewn caffi fod yn opsiwn da. Byddai cael rhywbeth i afael ynddo, yn enwedig diod cynnes, fedru ein helpu i deimlo yn bwyllog a gwell ynglyn â’r hyn yr ydym yn ei wneud. Hefyd, petai rhywun yn gofyn cwestiwn yr ydym yn ansicr o’i ateb, gallwn gymryd sip o’n diod tra’n bod yn meddwl am ateb.

Os yn bosibl, gall cyfarfod i wneud rhywbeth mwy actif fod yn llawer llai dwys na sgwrsio cyson. Gallwn drio rhywbeth fel mynd am dro, mynd i ddosbarth yoga neu fynd i’r sinema.

Paid â phoeni os wyt ti’n cael pethau yn ‘anghywir’

Mae pawb yn gwneud camgymeriadau trwy’r amser. Pan y byddwn yn cychwyn cymdeithasu eto, efallai y gwnawn ni gamgymeriadau neu cael pethau ychydig yn anghywir.

Gallai rhai pethau fod wedi newid – efallai bod y caffi yr ydym wedi arfer bod yn mynd iddo wedi symud ble mae nhw’n cadw’r cyllyll a ffyrc ers i ni fod yno ddiwethaf ac ein bod yn cael trafferth dod o hyd iddynt. Efallai bod un o’n siopau arferol wedi symud i stryd arall neu wedi cau i lawr. Efallai fod ffordd yr oeddwn yn arfer gyrru i lawr wedi dod yn rhan o system un-ffordd a bod yn rhaid i ni ddysgu llwybr newydd. Efallai ein bod yn camddehongli rhan o sgwrs. Efallai bod ‘na bethau mae pobl yn siarad amdanynt nad ydym yn ei ddeall oherwydd ein bod heb wylio rhaglen deledu benodol. Efallai nad ydym yn deall bod rhywun yn dweud jôc neu yn bod yn goeglyd pan yn siarad am rhywbeth. Mae pethau fel hyn yn digwydd, a nid yw’n fai arnom ni os ydym yn gwneud camgymeriadau. Mae hyn i gyd yn rhan o gromlin dysgu.

Does ‘na ddim byd yn bod efo cael pethau yn ‘anghywir’ neu gwneud camgymeriadau. Yn aml byddwn yn troi ein camgyeriadau i fod yn rhywbeth llawer mwy ‘na’r hyn mae rhywun arall yn ei weld. Efallai nad yw pobl eraill hyd yn oed yn sylwi ar y camgymeriadau y byddwn yn eu gwneud neu efallai yn eu chwerthin i ffwrdd. Does wir ddim angen i ni boeni am gael pethau ychydig bach yn anghywir.

Meddwl am bynciau i gychwyn sgwrs

Un o’r pethau sy’n medru bod yn anodd pan byddwn yn cychwyn cymdeithasu eto ydi gwybod beth i’w ddweud wrth pobl neu sut i gychwyn sgwrs. Gall bod efo syniadau o bynciau i gychwyn sgwrs cyn mynychu digwyddiad cymdeithasol ein helpu. A ydym wedi gwylio rhywbeth ar y teledu yn ddiweddar? Wedi gwylio ffilm? Wedi darllen llyfr? Ydi ein anifail anwes wedi gwneud rhywbeth doniol? Wedi gweld rhywbeth ar y newyddion? Chwilio am awgrymiadau o ran llyfrau neu raglenni teledu? Beth mae ein teulu wedi bod yn ei wneud? Os nad oes gennym fawr o ddim i’w ddweud am ein bywyd ein hunain, gall fod o help i siarad am fywydau ein ffrindiau neu ein teulu.

Gallai cael y pynciau hyn i law fod o helpu i osgoi distawrwydd lletchwith, ac os ydym yn cychwyn sgwrs yna mi fedrwn ni ddewis y pwnc a gallai osgoi sefyllfa o’n ffrindiau yn siarad am rhywbeth nad oes gennym syniad amdano.