Anhwylder Hunaniaeth Ddatgysylltiol

Dissociative Identity Disorder (DID)

Os oes gennych Anhwylder Hunaniaeth Ddatgysylltiol (Dissociative Identity Disorder – DID) byddwch yn profi newidiadau sylweddol yn eich hunaniaeth.

Arferai Anhwylder Hunaniaeth Ddatgysylltiol gael ei alw’n ‘Anhwylder Personoliaeth Luosog’ (Multiple Personality Disorder).

Gall rhywun sydd â DID ‘weld’ eu hunan fel petai wedi ei wneud o nifer o ‘rannau’ (‘alters’ neu ‘parts’) sydd i gyd yn gweithredu, meddwl, profi a rhyngweithio â’r byd yn annibynnol ac ar wahân i’w gilydd.

Rhwng y ‘rhannau’ yma mae yna amnesia ar raddau amrywiol. Mae hyn yn achosi dryswch difrifol ac yn arwain at gael meddyliau, hoffterau, cas bethau a theimladau sy’n gwrthdaro â’i gilydd o fewn y person yn ei gyfanrwydd. Gall bobl canfod eu bod wedi dweud neu wneud rhywbeth, neu wedi teithio i lefydd, heb unrhyw atgof o wneud hynny o ganlyniad i’r amnesia a achoswyd gan y datgysylltu.

Symptomau Anhwylder Hunaniaeth Ddatgysylltiol

  • Gwahanol agweddau ar eich hunaniaeth yn rheoli’ch ymddygiad a’ch meddyliau ar adegau gwahanol
  • Mae gan bob un o’ch hunaniaethau batrymau meddwl gwahanol
  • Mae eich hunaniaethau yn ymddangos fel oedrannau a rhyweddau gwahanol
  • Teimlo bod gennych un ‘brif’ rhan o’ch hunaniaeth sy’n teimlo mwy fel ‘chi’
  • Mae gan wahanol rannau o’ch hunaniaeth atgofion neu brofiadau sy’n gwrthdaro â’i gilydd.
  • Nid oes gennych reolaeth dros pryd fydd gwahanol rannau o’ch hunaniaeth yn cymryd drosodd
  • Profi amnesia sy’n golygu nad ydych yn cofio beth sy’n digwydd pan fo rhan arall o’ch hunaniaeth yn rheoli

Triniaeth Anhwylder Hunaniaeth Ddatgysylltiol

Y driniaeth a argymhellir ar gyfer DID ydy seicotherapi hir dymor. Gyda’r gofal a’r driniaeth gywir gall y rhannau o’r bersonoliaeth, dros amser, ddysgu i gyfathrebu a gweithio gyda’i gilydd i wella o’r trawma a’r dioddefant, fel y gall y person yn ei gyfanrwydd fwynhau bywyd llai anhrefnus a mwy cyflawn.

Ffynonellau: Mind a See Me Scotland