Ymweliad

Darllenwyd y gerdd yn gyntaf ar Y Talwrn.

Rownd rhyw gornel na welaf,
cyn hir, bydd o yno’r cnaf,
yr hen gi dig, ffyrnig, du,
a’r hen wg, yn sgyrnygu.
A dyna fo, wedyn: fe fynn
y diawl gael dod i’m dilyn.

Waeth heb, ’chos mi neidith o
ryw un diwrnod, a darnio’r
hynny a gâr ohonof.
Be wnaf? Mi ddiolchaf yn ddof
hyd yn hyn, mai mynd a wna’r
hen was, tan y tro nesa.