Gaeaf Gwaredol

Yn brin i’r byd yw’r bobl braint

Heb hunllef yn eu hun

A baich bob un sy’n boen eu byd

‘n ddigalon a’n ddihun

 

Ond pan ddaw pryder plagus pur

I boeni’r byd â braw

 cherdd, a chân, a chalon lân

Cawn gysur cyn curlaw

 

A phan ddaw harddwch heulwen hael

I ddiffodd gwyll a gwae,

Awen alaw eirian aur

Bu’n boddi’r brawiau brau

 

Gogoniant gobaith ger y gwynt

Bu’n atal yr aflwyddau

A beichiau bannau oll y byd

Bu’n esgyn o’n ysgwyddau

 

Mae gobaith gennyf, ger y glaw,

A ffydd mewn ffawd a phobl

Trwy olau oriau man yr oer

Fe’m cyfhawn o’r gaeaf gwaredol.

 

Gwen Goddard