Dyddiau
Dyddiau anodd, dyddiau braf,
dyddiau gaeaf, dyddiau haf.
Dyddiau byrion, duon, bach,
dyddiau hirion yn llawn strach.
Dyddiau heulog ar eu hyd,
a phob un yn werth y byd.
Dyddiau gweigion, dyddiau llawn,
dyddiau pan nad oes dim yn iawn.
Dydd i’r ci, a dydd i’r gath,
a phan mae pob un dydd ‘run fath.
Dyddiau i aros, dyddiau i fynd,
dyddiau dwl heb weld ‘run ffrind.
Dyddiau caled, dyddiau gwell,
dyddiau pan deimla pawb ymhell.
Dyddiau gwyliau, dyddiau gwaith,
dyddiau niwlog, llwydaidd, llaith.
Dyddiau trefnus, dyddiau blêr,
dyddiau o chwilio am y sêr.
Dyddiau tywyll, dyddiau gwyn,
dyddiau o ddal fy hun yn dynn.
Dyddiau euraid ar eu hyd,
dyddiau sy ddim yn fêl i gyd.
Os daw heddiw â gwynt ac eirlaw,
dal dy galon dan dy ddwylaw.
Waeth ti befo am y tywydd,
Mae yfory’n ddiwrnod newydd.
Morwen Brosschot (@YmaFanHyn)