‘Codi Hwyliau’ – Iola Ynyr (Rhagair)
Daw’r darn isod o gyfrol newydd Iola Ynyr, ‘Codi Hwyliau’ a gyhoeddir gan y Lolfa. Gellir ei brynu yma am £9.99.
Dwi wastad wedi dotio at bobl sy’n gallu bod yn hapus eu byd, er gwaethaf popeth. Nid pobl ffals, ond y rhai sydd wirioneddol yn gallu bod yn gadarnhaol wrth gamu at ddatrysiadau. Dydyn nhw ddim yn troi yn eu hunfan yn dadansoddi eu trallod. Yn hytrach, maen nhw’n sianelu eu hegni at bethau yn eu bywydau sy’n cynnig cysur. Mae’r bobl hynny’n ymddangos yn gyson yn y llyfr hwn – rhai ohonynt yn bobl dwi’n eu hadnabod yn dda, ac eraill yn bobl dwi wedi darllen amdanyn nhw. Ac nac ydw, dydw i ddim yn ystyried fy hun yn un ohonyn nhw. Eto.
Does ganddoch chi ddim syniad o faint y wen a gododd ar fy wyneb wrth i mi sgwennu’r tair llythyren fach yna – ‘eto’! Dwi’n dechrau ystyried y galla i ymuno a charfan y bobl hapus ond dwi angen gwneud lot fawr i gyrraedd yno. Mae iechyd meddwl yn effeithio arnon ni i gyd ac mae ceisio’i ddeall a myfyrio arno yn rhan allweddol o sicrhau ein llesiant; mae angen cofleidio breuder a’i gydnabod fel arf i feithrin dewrder drwy onestrwydd. Mae hi mor hawdd mynd i batrwm meddwl ac ymddygiad niweidiol, yn arbennig yn y ffordd rydyn ni’n ymdrin a’n hunain. Mae’n wir am y modd rydyn ni’n cysylltu a phobl eraill hefyd. Dyna’r ‘helo, su mae …’, ‘yndw’n iawn, diolch’ arwynebol sy’n datgelu fawr ddim am sut ydyn ni go iawn.
Yn ddiweddar, dwi wedi dod i ddeall sut mae’r tensiwn oddi mewn i mi fy hun yn effeithio ar fy mywyd. O ddarllen llyfrau lu, gwrando ar bodlediadau a thrafod efo pobl ddoeth a gofalgar, dwi wedi dod i adnabod fy hun yn well a dysgu mwy am yr unig bethau sydd gen i bŵer drostyn nhw, sef fy ymddygiad, fy meddyliau a’r modd dwi’n ymateb iddyn nhw a’r byd o ’nghwmpas.
Hwylio ydi’r trosiad dwi wedi’i ddefnyddio yn y llyfr hwn.Ychydig iawn o brofiad sydd gen i o hwylio, ac er bod teithio ar gwch a cheisio’i feistroli yn y dŵr yn fy nychryn, dwi wrth fy modd yn gwylio cychod hwylio ar y mor. Maen nhw’n cynrychioli antur, o fod yn un a natur a’r gallu i gyrraedd rhywle heb lygru’r amgylchfyd efo injan sy’n llosgi tanwydd. O fod yn gweithio yn un a’r cwch, mae tawelwch yn dod, ond mae angen parchu’r elfennau i deithio yn y ffordd fwyaf effeithlon.
Am ddegawdau doeddwn i ddim yn gallu deall, nac yn cydnabod, faint o egni oedd ynghlwm a’r meddyliau prysur yn fy mhen. Mae sylwi a chydnabod yn rhan o’r daith i newid, er gwell, gobeithio. A chofiwch, mae gan bob cwch hwylio gwerth ei halen system ddiogelwch i’w amddiffyn rhag argyfyngau – cylch bywyd coch a gwyn efo rhaff arno neu gwch rhwyfo bychan.
Yn y llyfr hwn, fi ydi’r cwch; y mor ydi pobl eraill. Y tywydd a’r dirwedd ydi’r pethau sy’n digwydd i mi mewn bywyd – un ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. Wrth siarad a Jean, fy ffrind, a Dei Tomos, sy’n hwylwyr profiadol, mae’r cysyniad yn dal dŵr (sorri) ac yn ffordd o greu fframwaith i ddatblygu system i fyw’n hapusach. I Dei, canolbwyntio a bod yn effro i’r byd o’i gwmpas sy’n amhrisiadwy – gwylio’r llanw a chadw llygad ar sut mae unioni’r cwch mewn perthynas a’r newidiadau yn y gwynt. Mewn llythyr, disgrifiodd Jean beth oedd apêl hwylio iddi hi:
Cychwyn ar antur, chydig yn ofnus, chydig yn oer, heb wybod
yn union lle fyddwn ni’n cyrraedd. Ias yr awyr yn dy chwythu
lle mynnith o. Tawelwch a chyffro.
Weithiau mae’n rhaid cychwyn taith heb wybod yn iawn lle
fyddi di’n cyrraedd. Dwyt ti ddim ar dy ben dy hun; mae’r bobl
yn y cwch yn bwysig. Rhaid i ti ymddiried yn y bobl hynny, pwy
bynnag ydyn nhw. Pan wyt ti’n dysgu dibynnu ar rywun arall, a
nhwythau arnat ti, dyna sut mae ymddiriedaeth yn naioni pobl
yn cael ei magu.
Mae pob pennod yn y gyfrol hon yn cyfeirio at thema o fyd hwylio. Penodau ar sail fy mhrofiadau i o ddod i delerau efo fy emosiynau ydyn nhw. Dwi’n rhannu hanesion bach sydd wedi arwain at newid yn y ffordd dwi’n gweld fy emosiynau ac at allu edrych yn fwy cadarnhaol ar yr hyn sydd wedi dod i’m rhan.
Ceir ymarferion ar gynffon pob pennod. Mae’r ymarferion hyn wedi gweddnewid fy nghysylltiad efo fi fy hun, a dros amser maen nhw wedi fy ngwneud yn fwy bodlon fy myd. Cofiwch nad oes raid i chi ymdrechu i wneud y tasgau yma o gwbl. Efallai eich bod am ddychmygu eu gwneud nhw; dwi’n reit sicr y cewch chi ryw ddealltwriaeth fach ddefnyddiol, os nad annisgwyl, yn sgil hynny, fydd efallai fymryn yn annifyr a phleserus yr un pryd. Mi allwch chi ddychwelyd at yr ymarferion ar ol gorffen darllen y llyfr, gan barhau i ymestyn y meddwl a chanfod posibiliadau newydd.
Os gall y llyfr hwn brocio, gwneud i chi ailfeddwl neu ystyried eich gallu i fod yn fwy bodlon, a thrwy hynny wneud eraill yn fwy bodlon, wel, mi fydda i’n ddynes hapusach eto. Er hynny, rhaid cydnabod nad ydi’r llyfr hwn yn cynnig atebion i unrhyw un sydd a chyflyrau afiechyd meddwl. Mae cefnogaeth feddygol wedi bod yn allweddol i mi. Mi fyswni’n annog unrhyw un sy’n pryderu am eu hiechyd meddwl i estyn am gefnogaeth broffesiynol ac i drafod hynny’n agored heb gywilydd o fath yn y byd. Mae’r newid yn agweddau cymdeithas at iechyd meddwl yn galondid mawr i mi, ond efallai fod ganddon ni fwy o waith i’w wneud yn y Gymraeg.
Cyn i chi droi at y llyfr, mae gen i un cysyniad arall dwi isio’i gyflwyno i chi, sef Myfi. Llais yn fy meddwl ydi hi a dwi wedi bathu enw iddi. Benywaidd ydi traw a natur y llais, ac weithiau mi alla i gamgymryd Myfi am ‘myfi’. Mae ‘Myfi’ yn barod iawn i weld bai tra mae ‘myfi’ yn dynerach ei hymateb i’r byd.
Drwy ei henwi, mae’n haws i mi wahaniaethu rhwng meddyliau sy’n driw i mi go iawn (myfi) a’r negeseuon negyddol sy’n fy hysbysu o bob canlyniad neu bosibilrwydd catastroffig i’r hyn dwi’n ystyried ei wneud (Myfi). Mae llais Myfi yn glir fel cloch, ond dwi’n deall ei bod ar wahan i mi neu fyswn i ddim yn ei chlywed. Fy ego ydi hi? Efallai. Mae dylanwad Myfi yn gallu bod yn niweidiol a gall roi dŵr oer ar bopeth. Ond, mewn argyfwng go iawn, mae ei rhybuddion hi’n bwysig ac weithiau mi alla i elwa ohonyn nhw.
Dwi wedi dod i sylweddoli nad oes raid i mi wrando a gweithredu’n llythrennol ar yr hyn mae Myfi yn ei ddweud. Mi alla i weithiau roi hawl iddi siarad yn rhydd i gael lleisio’i hofnau yn un chwydfa fawr, a thro arall mae’n rhaid i mi ddweud wrthi’n blaen, ‘Stop, Myfi! Dydi hynne ddim yn wir. Diolch i ti am dy rybuddion ond mae gen i ffordd arall o ddelio efo hyn.’ Mae siarad efo Myfi yn gwrtais yn fy helpu i’w thawelu.
Dwi’n gobeithio nad ydw i wedi eich dychryn chi nes eich bod chi’n fy niystyru fel dynes ganol oed hollol bananas (neu pa air bynnag fyddwch chi’n ei ddefnyddio i gyfleuansefydlogrwydd). Ond dwi’n siŵr eich bod chi’n chwilio am fwy o hapusrwydd hefyd neu fyddech chi ddim yn darllen hwn o gwbl. Tasan ni’n bod yn onest, dwi’n meddwl y gallen ni ryddhau lot o boen wrth ddatgelu llif parablus ein meddyliau.
Mae gen i ffydd bod dewis byw drwy fod yn obeithiol a chlen efo’n hunain, er gwaethaf erchyllterau creulondeb o bob math, yn ffordd o ledaenu mwy o bosibiliadau o heddwch i bawb. Tydi hyn ddim yn golygu gorfodi ein hunain i ffalsio hapusrwydd, ond yn hytrach ymddiried ein bod yn gallu dyfalbarhau a charedigrwydd drwy heriau, yn hytrach na bod yn llym efo ni ein hunain a phobl eraill. Rhowch gynnig ar wneud hyn i chi eich hun yn gyntaf. Yn raddol, mi wnaiff pobl eraill ddechrau sylwi ac, yn amlach na pheidio, fe wnan nhw ddechrau efelychu eich ysgafnder chi. Mae’r tamaid lleiaf o hapusrwydd yn cario cariad, ac o fanno fe allwn ni adeiladu byd gwell i bawb.
Ond argol, mi fydd angen lot o fynadd, dyfalbarhad a dychymyg i gychwyn ar y daith yma! Mi fydda i efo chi’n gwmpeini bob cam o’r daith, a phwy a ŵyr pa drysorau y gwnawn ni eu canfod.
Felly, i ffwrdd a ni! Neidiwch ar ddec y cwch codi hwyliau!