Ar Lan Y Môr

Act gyntaf drama gan Aled Jones Williams ydi ‘Ar Lan y Môr‘.

Mae’r ddrama yn ymateb i brofiadau cleifion hen ysbyty meddwl Dinbych. Ffion Dafis sy’n perfformio monolog Glenda, sy’n glaf mewn ysbyty yn rhannu ei gwewyr meddyliol a hithau’n teimlo ei bod ar lan y môr – tra ei bod mewn gwirionedd ar lan ymyl ei bywyd lle mae ei hofnau a’i salwch meddyliol yn bygwth ei boddi.