Anhwylderau Datgysylltiol

Dissociative disorders

Mae datgysylltu yn un ffordd y mae’r meddwl yn ymdopi â gormod o straen, er enghraifft yn ystod digwyddiad trawmatig. Efallai y byddwch yn datgysylltu hyd yn oed os nad oes gennych anhwylder datgysylltol oherwydd gallai fod yn symptom o gyflwr iechyd meddwl arall.

Fel arfer mae’n disgrifio’r profiad lle rydych yn teimlo eich bod wedi datgysylltu mewn rhyw ffordd oddi wrth y byd o’ch cwmpas neu oddi wrth eich hun.

I nifer o bobl, mae datgysylltu yn ymateb naturiol i drawma na allant ei reoli. Gall fod yn ymateb i un digwyddiad trawmatig neu drawma parhaus.

Mathau o anhwylderau datgysylltiol

Mae anhwylderau datgysylltiol yn cynnwys:

Amnesia Datgysylltiol

Bydd gan rywun sydd ag Amnesia Datgysylltiol fylchau yn eu bywydau lle na allant gofio gwybodaeth amdanynt eu hunain neu ddigwyddiadau.

Efallai y byddant hefyd yn methu â chofio gwybodaeth bwysig am bwy ydynt, hanes eu bywyd neu ddigwyddiadau penodol. Gallent hefyd anghofio talent neu sgil a ddysgwyd.

Mae’r bylchau hyn yn y cof yn llawer mwy difrifol nag anghofrwydd arferol, ac nid ydynt yn ganlyniad i gyflwr meddygol arall. Mae rhai pobl sydd ag Amnesia Datgysylltiol yn eu cael eu hunain mewn llefydd rhyfedd heb wybod sut y cyrhaeddont yno. Efallai eu bod wedi teithio yno ar bwrpas, neu wedi crwydro yno mewn cyflwr dryslyd. Gall y cyfnodau gwag hyn barhau am funudau, oriau neu ddyddiau. Mewn achosion prin, gallant barhau am fisoedd neu am flynyddoedd.

Anhwylder Datgysylltiol Penodedig Arall

Profi symptomau datgysylltiol nad ydynt yn ffitio i unrhyw ddiagnosis arall. Bydd y person sydd yn rhoi’r diagnosis i chi yn esbonio pam nad ydy eich symptomau yn ffitio i mewn i unrhyw ddiagnosis arall.

Anhwylder Datgysylltiol Amhenodol

Profi symptomau datgysylltiol nad ydynt yn ffitio i unrhyw ddiagnosis arall ond nid yw’r person sy’n rhoi’r diagnosis i chi wedi esbonio pam, neu nad oes ganddynt ddigon o wybodaeth i wneud diagnosis llawn (er enghraifft mewn argyfwng).

Ffynonellau: Mind a NHS