Crys-t ‘Paid â bod ofn’

£15

Diolch o galon i Eden am ddylunio’r crysau er mwyn codi arian i meddwl.org!

Meintiau ‘Unisex’:

  • XBach: 34/36″
  • Bach: 36/38″
  • Canol: 38/40″
  • Mawr: 41/42″
  • XMawr: 43/44″

Argraffwyd yng Nghymru

Manylion

Crys-t llewys byr. Steil gyfoes. Gwneuthuriad tiwbaidd. Coler denau gaerog er mwyn sicrhau delwedd fodern. Tâp cefn gwddf ar gyfer gorffeniad glân. Gwddf ‘crew’ deublyg, coler rhesog gydag Elastane. Defnydd gwydn â theimlad meddal. Defnydd o ansawdd gan B&C.

Defnydd: Jersey Sengl, cotwm 100% wedi ei ragleihau.

Pwysau: 185gsm

Trwy ddod yn aelod o’r Fair Wear Foundation, mae B&C (sy’n cynhyrchu’r crysau) wedi ymrwymo i weithredu a chynnal Cod Ymddygiad a luniwyd yn benodol ar gyfer y diwydiant dillad. Mae’r Cod Ymddygiad hwn yn seiliedig ar Gonfensiynau’r Sefydliad Llafur Rhyngwladol a’r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol. Mae hyn yn ymgorffori’r safonau canlynol:
  • Dim defnydd o lafur plant,
  • Dim defnydd o lafur gorfodol,
  • Amodau gwaith diogel ac iach,
  • Cytundeb llafur cyfreithiol,
  • Talu cyflog byw,
  • Rhyddid i gymdeithasu a’r hawl i gyd-fargeinio,
  • Dim gwahaniaethu yn erbyn gweithwyr,
  • Dim oriau gormodol o waith.

Postio

Byddwn yn anfon eich archeb cyn gynted â phosib. Gan ein bod yn fudiad gwirfoddol, gall gymryd hyd at 10 diwrnod i chi dderbyn eich archeb. Os ydych ei angen erbyn dyddiad penodol, cysylltwch â ni, a gwnawn ein gorau i helpu.