‘Ti lot pertach pan ti’n gwenu…’
Yn ddiweddar, cyfeiriom at gofnod newydd Marged Elen sydd â’r bwriad o gofnodi ei thaith yn cyd-fyw ag iselder; Croen Denau.
Mae mwy i’w ddarllen gan Marged bellach yn ei hail gofnod:
“TI LOT PERTACH PAN TI’N GWENU…”
Ma siarad am iselder yn neud lot o bobl teimlo’n itha awkward so yn aml iawn, heb drio, ma nhw’n blurto mas pethe rili twp. Just to name a few….
“Byse ni byth yn meddwl galle merch mor bert ddioddef o iselder” – achos yn amlwg ma pawb sydd yn isel yn gwisgo dillad du ac yn cerdded o gwmpas fel y Llipryn Llwyd.
“Stim rheswm da ti deimlo’n isel” – O na?! Teimlo’n well yn barod.
“Awyr iach sydd ishe arno ti, cer mas am run” – Ma codi o’r gwely yn anodd, ond 5k bach, dim problem!