Profiad gorfeddyliwr ar ddiwrnod ‘Steddfod

Cefais fy nghyffwrdd i’r byw gan eiriau fy nghyd-delynor Dylan Cernyw mewn blog i wefan Meddwl yn ddiweddar, ac mae blog Dylan wedi bod yn ysgogiad i minnau rhoi pen ar bapur hefyd. Yn ei flog, dywedodd Dylan ei bod e’n gallu ‘cuddio tu ôl i’r delyn’, a dyma osodiad y gallwn innau uniaethu ag e’n syth.

Ry’n ni gyd yn gorfod delio gydag ystod o deimladau, profiadau, emosiynau a moods ar unrhyw ddiwrnod o’r flwyddyn. Ond mae ‘na rai adegau sydd yn fwy o her na’u gilydd. I nifer, y Nadolig yw’r flashpoint emosiynol amlycaf. Gall yr Eisteddfod fod yn gyfnod digon tebyg, am fod cymaint o hanes, teimladau, ymdrech a gweithgarwch yn perthyn i’r Brifwyl, nid yn unig ar lefel cenedlaethol, ond hefyd i’r uniogolion sydd yn rhoi calon ac enaid mewn i’r achlysur. Bydd y teimlad o ‘bliws diwedd ‘Steddfod’ yn gyfarwydd i nifer o Gymry Cymraeg.

Pwrpas y blog hwn yw archwilio rhywfaint i’r gwahanol emosiynau sy’n perthyn i’r Brifwyl, gan obeithio bydd y darn yn help i rywun neu rhywrai.

Rwy’n caru’r Eisteddfod. Bu’r brifwyl yn rhan on and off o’m bywyd ers imi ddod ar fy ngwyliau o Gaerlŷr i Eisteddfod Llangefni ym 1983, a minnau’n ddysgwr Cymraeg 8 mlwydd oed. Yn 2009, penderfynais bod yn rhaid i’r Eisteddfod fod yn rhan bwysicach o’m bywyd. Ers hynny, mae cyfansoddi ar gyfer y cystadlaethau rhyddiaith (nid am y Fedal cofiwch!), a chystadlu gyda grŵp gwerin Sesiwn Caerdydd, wedi dod yn rhan ganolog o’m strwythr flynyddol.  Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i ddod i’r frig ar dair achlysur, yn 2011 (rhyddiaith – blog), 2013 (telyn gwerin unigol) a 2014 (grŵp gwerin).

Rwyf am ganolbwyntio ar fy mhrofiadau ar Ddydd Mawrth Eisteddfod Llanrwst. Roeddwn wedi teithio ar fy mhen fy hun o Sir Gaerfyrddin er mwyn bysgio yn y dref, ac wedyn cymryd rhan mewn achlysur penodol ar y maes. Mae rhai arbenigwyr yn annog cadw mood diary, ac yn yr arddull hwnnw byddaf yn nodi pob teimlad neu emosiwn mewn print bras er mwyn tynnu sylw at yr emosiynnau gwahanol a deimlais y diwrnod hwnnw.

Cyrhaeddais Llanrwst ychydig cyn naw o’r gloch y bore. Roeddwn wedi gyrru yn ôl ac ymlaen o Sir Gaerfyrddin ddwywaith ers nos Wener, heb gael fawr o gwsg, felly roeddwn wedi blino. Pan gyrhaeddais Llanrwst, roedd yn bwrw glaw. Roeddwn wedi cynllunio bore mawr o fysgio, felly roeddwn yn rhwystredig gyda’r tywydd. Wedi teithio mor bell, a chlywed cymaint o build-up am dref Llanrwst ar Radio Cymru, roeddwn ychydig yn siomedig hefyd bod sgwâr y dref mor dawel. Wrth lwc, chwiliais ffrynt siop oedd wedi cau, lle gallwn ganu a chuddio o’r glaw. roeddwn felly’n ddiolchgar yn fwy na dim. Roeddwn yn hapus tra’n bysgio i gael sgwrs gydag ambell i gymeriad diddorol o blith hoelion wyth tref Llanrwst. Ac, er mai dim ond dwy bunt a lwyddais i ennill mewn 90 munud glawiog, roeddwn yn falch o’m dyfalbarhâd i allu canu offeryn dan amodau caled.

Penderfynais rhoi’r ffidil yn y to ar ôl tua awr a hanner, a mynd am dro o gwmpas y dref. Yn gyntaf, i Gaffi Contessa, a sylwi ar eu harddangosfa hardd o hen bosteri gigs Cymdeithas yr Iaith o’r 1980au a 1990au. Teimlais hiraeth am hen gyfnod, hen sîn a hen amgylchiadau. Dyma fi’n rhannu llun o’r posteri, ac efallai trio cyfleu hen deimlad gyda’m gwraig dros Messenger. Yna, dyma glamp o all-day breakfast  yn cyrraedd y bwrdd (‘Brecwast Bach’ yn ôl y fwydlen!), a dyma fi’n teimlo’n yn fwy bodlon gyda’m byd. Wedyn, mynd am dro ar hyd llwybr Afon Conwy. Teimlo ychydig o unigrwydd, ond llwyddo i chwilio Geogelc (geocache) a chael ymdeimlad o gysylltiad gyda’r gymuned byd-eang o geogelcwyr rwyf yn perthyn iddo.

Ymlaen i’r maes. Cyffro a balchder wrth ffeindio fy hun yn tiwnio i fyny gyda rhai o hoelion wyth byd y delyn gwerin. Ar yr un pryd – yn gorfod brwydro teimladau o or-feddwl a chymharu fy hun ag eraill. O ran safon technegol, nid wyf yn teimlo’n gymwys i rhannu’r un llwyfan â rhai o’r offerynwyr hyn! Mae’r teimlad afresymol o inferiority complex yn ffrwyno rhywfaint ar fy mwynhâd o fod yn rhan o achlysur bwysig.

Wrth fynd yn hŷn, rwyf wedi troi’n fwy sensitif i interactions personol a sefyllfaoedd unigol. Mae’r nodwedd hon yn dueddol o saethu i’r wyneb gyda fi adeg Eisteddfod, gyda chymaint o hen ffrindiau annwyl o gwmpas, yn ogystal â ddyrnaid bach o gymeriadau yn y byd cyhoeddus Cymraeg sydd yn fy lled-adnabod, ond heb  wedi cynhesu at fy mhersonoliaeth, am ba bynnag rhesymau. Yn y gorffennol, bu gen i gymeriad eithaf extrovert a brwdfrydig, ynghŷd â thueddiad i ddweud neu gwneud ambell i beth anaeddfed, yn gyhoeddus. Ac felly rwyf yn eithriadol o hunan-ymwybodol mewn sefyllfaoedd pwysig fel hyn. Mae’r teimladau annifyr (ac afresymol i raddau helaeth) hyn yn gallu fy ‘nilyn o gwmpas pob Eisteddfod pan nad wyf yng nghwmni fy mhlant.

Efallai nad wyf mor hyderus wrth ddelio gyda’r ‘pysgod mawr mewn llynoedd bach’ sydd yn nodweddi cymuned glos y Cymry Cymraeg diwyllianol. Mae gan y pysgodyn mawr y gallu i godi neu danseilio hunan-hyder y pysgodyn fach yn rhwydd iawn, efallai’n ddiarwybod, yn y modd y mae’n dewis ymwneud â – neu cau allan –  y pysgodyn llai, yn enwedig os yw’r pysgodyn bach hynny o anian gor-bryderus neu’n sensitif.

Er gwaethaf fy amheuon am fy lle yn y pantheon o delynorion Cymreig, rwy’n gwybod y gallaf ymfalchïo mewn bron i dri deg mlynedd o waith fel bysgiwr a chenhadwr dros ein halawon gwerin, a dyna’r rheswm i mi gael y gwahoddiad i fod yn yn y digwyddiad ddydd Mawrth. Yn bwysicaf oll, rwyf wedi gwneud nifer o ffrindiau cynnes a didwyll ar hyd y daith fel telynor, ac mae’r wefr o gwrdd â nifer ohonynt yn anffurfiol yr un lle yn llwyddo i drechu’r teimladau mwy nerfus neu ansicr ynghylch yr achlysur ffurfiol rwyf yn rhan ohono.

Fel ym mhob Eisteddfod, mae wedi bod yn dipyn o roller-coaster o deimladau. Wrth anelu nôl am y De, rwy’n teimlo’r hiraeth eto o orfod adael gogledd-orllewin Cymru, ei thirwedd, ei hiaith, a’r bubble o gymeriadau’r sîn werin a diwyllianol Cymraeg sydd yn byw yn yr ardal. Serch hynny, rwy’n falch i ddweud bod teimlad o hapusrwydd yn dod i’r wyneb hefyd am yr atgofion a wnaed yn Llanrwst, er gwaethaf – ac efallai oherwydd – y brwydrau mewnol roedd yn rhaid eu hwynebu’n onest. Ymlaen i Dregaron 2020!

Carwyn Tywyn