‘Cyfnerthiadau Positif’ – Bugail neu fradwr?
Os rhoddwch y term ‘positive affirmations’ ym mheiriant Google, cewch ganlyniad o tua 75,300,000 awgrym. Mae bron pawb yn derbyn pwysigrwydd ‘PMA’ (Positive Mental Attitude) yn ddiamod. Mae dyfyniadau a chyfnerthiadau (affirmations) i’n hysbrydoli dros ein ffrydiau amser ar draws ffotograffau trawiadol o fynyddoedd, dolffiniaid neu hâd dant y llew yn chwythu yn y gwynt. Maent yn datŵs ac ar grysau-t ac mewn caneuon a dywediadau. Y cwestiwn ydi- oes tystiolaeth bod y pethau hyn yn ein helpu ni?
Yn y darn hwn mi fyddai’n esbonio sut roeddwn i’n defnyddio cyfnerthiadau yn y ffordd anghywir, yr effaith a gafodd arna i, gwaith ymchwil am y pwnc ac argymhellion ar ffyrdd mwy effeithiol o’u defnyddio.
Fy hanes i
Tra roeddwn yn dioddef o blwc o iselder a gorbryder, penderfynais ddechrau astudio ymladd MMA. Darllenais lawer o lyfrau am ymladdwyr ar draws y byd ac roeddwn eisiau eu dynwared. Roedd y rhan fwyaf o’r llyfrau yn sôn am bwysigrwydd hunan ddatganiadau (self-statements) cefnogol a defnyddio cyfnerthiadau positif. Penderfynais ddewis 10 hunan-ddatganiad /cyfnerthiad (un ar gyfer pob bys) i mi gael eu dysgu a’u hadrodd tra roeddwn yn rhedeg, gan obeithio y byddent yn fy newid o athro tyner bron 40 oed i ymladdwr ffyrnig a pheryglus!
Roeddwn yn eu hadrodd yn aml ar lafar wrth redeg ac yn dawel yn fy mhen cyn mynd i gysgu. Y strach oedd, roedd llais bach arall (tawel ond parhaus) yn ateb rhai o’r cyfnerthiadau:
1 – Rwyt ti’n bositif ac yn disgwyl a haeddu canlyniad positif i bob dim rwyt ti’n wneud.
(Haeddu a disgwyl? Fel plentyn wedi ei ddifetha?)
2 – Rwyt ti’n grefftwr ac mae hoel dy berffeithrwydd yn dangos yn dy sgiliau cywrain.
(Newydd ddechrau wyt ti!)
3 – Rwyt ti’n falch ac yn moesymgrymu i neb.
(Ti’n croesi’r stryd pan ti’n gweld criw o blant yn eu harddegau!)
4 – Rwyt ti’n effeithlon hefo dy egni.
(Mae dy egni yn brin ac rwyt ti’n blino’n hawdd felly gwell i ti fod!)
5 – Rhan cryfaf dy gorff yw dy galon a ti byth am ildio.
(Hahaha! Wyt ti’n siŵr? Mae dy ego ddigon cryf tydi!)
6 – Rwyt ti’n ddeniadol ac yn diddori’r dorf.
(Does neb yn hoffi pobl sy’n dangos ei hun cofia)
7 – Rwyt ti’n gyflym ac yn gyfrwys.
(Calon wan- da traed buan)
8 – Rwyt ti’n bwyllog ac yn amseru pob dim yn berffaith.
(Ti’n cofio’r gweir ges di wrth ymarfer dydd Sul?)
9 – Mae dy stori’n ysbrydoli pawb rwyt ti’n nabod ac mae dy deulu yn falch iawn ohonot ti.
(Fel Eddie the Eagle? Ti di bod digon dewr i ddweud wrth Mam eto?)
10 – Rwyt ti’n beiriant didrugaredd sy’n dyfalbarhau nes cyrraedd dy nod.
(Lot fwy fel C3PO na’r Terminator yndwyt posh lad?)
Wrth i mi barhau gyda fy nghadarnhadau dros yr wythnosau doeddwn i ddim agosach at weld fy hun fel ymladdwr peryglus, ac os unrhyw beth, yn dechrau teimlo fel bach o ffugiwr ac yn fwyfwy isel. Roedd fy hyder a’m hunan-werth yn gostwng yn gyflym ac roeddwn eisiau rhoi’r ffidil yn y tô. Pam nad oedd fy PMA a’r holl hunan ddatganiadau a chyfnerthiadau positif yn fy helpu?
Y dystiolaeth
Yn ddiddorol, does dim llawer o waith wedi’i wneud ar effaith cyfnerthiadau ar emosiwn a hunan-werth unigolion. Yn draddodiadol mae’r rhan fwyaf wedi derbyn bod rhaid iddo fod yn beth da. Ffendiodd Wood, Perunovic & Lee (2009) bod llawer o bobl yn defnyddio hunan-ddatganiadau bositif ac yn credu eu bod yn fuddiol. Roedd canlyniadau eu harbrofion yn dangos bod pobl sydd â hunan-barch uchel weithiau yn teimlo rhywfaint yn well wrth ailadrodd hunan-ddatganiadau positif na phobl gydag hunan-barch uchel sydd ddim yn eu hailadrodd.
Mae’r stori yn wahanol iawn ymysg pobl sydd â hunan-barch isel. Gwnaethant ddarganfod bod pobl sydd â hunan-barch isel yn teimlo’n waeth wrth ailadrodd hunan-ddatganiadau positif na phobl eraill â hunan-barch isel oedd ddim yn eu defnyddio. Yn gryno, mae eu gwaith yn awgrymu bod yn well i bobl heb lawer o hunan-barch beidio â defnyddio hunan-ddatganiadau positif o gwbl, achos mae peryg iddynt deimlo’n waeth!
Ond pam?
Un esboniad sy’n ffitio ydi Damcaniaeth Anghyseinedd Gwybyddol (Cognitive Dissonance Theory). Yn syml, mae’r cysyniad yma yn dweud bod straen seicolegol yn digwydd pan rydym yn ceisio ymdopi gyda dau syniad sy’n gwrth-ddweud ei gilydd. Yn fy esiampl i roeddwn yn ceisio honni fy mod yn ymladdwr ffyrnig oedd yn codi ofn ar bobl ac yn beryg bywyd, ond roeddwn i (a’r bobl o fy amgylch) yn fy ngweld fel person tyner a chyfeillgar. Roedd ceisio dal y ddau ‘wirionedd’ gwahanol yma ar unwaith yn creu llawer o straen a gorbryder i mi ac yn gwneud i mi deimlo’n fethiant. Roedd y peth roeddwn i’n hawlio a cheisio credu mor bell o’r gwirionedd roeddwn i’n ei deimlo fel ei fod yn gwneud i mi deimlo’n erchyll!
Asesu fy honiadau
Mae Anghyseinedd Gwybyddol yn waeth os yw eich hunan-barch yn isel, ac mae’r syniadau rydych yn trio eu mabwysiadu a’r ‘gwirionedd’ yn wahanol iawn. I negyddu’r effaith niweidiol arna i, mi nes i addasu fy hunan-ddatganiadau i fod yn agosach i’r ffordd roeddwn yn gweld fy hun, wrth barhau i fod yn bositif. Er enghraifft, yn lle honni fy mod yn ‘grefftwr ac mae hoel dy berffeithrwydd yn dangos yn dy sgiliau cywrain’ rwyf yn datgan fy mod ‘yn mwynhau dysgu sgiliau newydd sbon ac yn gwella drwy’r amser’.
I gloi…
Credaf dylid rhoi ‘rhybudd iechyd’ ar hunan-ddatganiadau a chyfnerthiadau oherwydd maent yn debygol o wneud niwed i’r union bobl sydd eu hangen ac yn eu defnyddio fwyaf! Os ydych am eu defnyddio, byddwch yn ymwybodol o’r effaith mae hunan-ddatganiadau yn gallu cael os oes gennych hunan-barch isel neu ddiffyg hyder. Cymerwch ofal gyda’r hyn rydych yn ei ddweud wrthoch chi’ch hunain bob amser ac os oes pryder yn parhau, ewch i chwilio am gymorth gan rywun proffesiynol.
Sion Pritchard