Byw Gyda Cholled

Ry’n  i gyd yn dod ar draws colled rhywbryd yn ystod ein bywydau, yndyn ni? Ond mae colli Dad a Mam cyn i mi droi’n 31 yn gwneud fy stori i ychydig yn wahanol.

16. Dyna beth odd y’n oedran i yn colli Dad. Roeddwn i allan yn America ar y pryd gyda’r ysgol. Dad wnaeth dalu i fi fynd er mwyn treulio amser yn Efrog Newydd a Washington yn ymweld â gwahanol lefydd a chael amser da gyda ffrindie. Ond unwaith cyrrhaeddais i adre dyma fi’n clywed y newyddion gwaetha’ posib. Roedd Dad wedi marw.

Sut yn y byd o’dd hyn yn bosib? Roedd Dad yn ddyn cryf, iach – doedd dim byd fel hyn yn gallu digwydd iddo fe. Ond wir, roedd e wedi mynd. Trawiad ar y galon dywedodd y doctor wrthaf, a fyddai dim byd wedi medru ei safio. Roedd y trawiad mor ddifrifol bydde fe wedi marw cyn bwrw’r llawr hyd yn oed.

Mae edrych yn ôl dros y cyfnod hyn fel cwmwl du. Roeddwn i’n lwcus iawn o’r teulu, ffrindiau ac athrawon oedd gen i. Ond wnaeth neb byth gynnig help proffesiynol i mi. Dwi ddim yn siwr iawn os bydden ni wedi medru cymryd unrhyw gymorth, ond eto byddai’r cynnig wedi bod yn ddechreuad.

Tyfais i fyny yn ferch gryf, ddwfn a chaled ar ôl colli Dad. Doedd siarad am fy nheimladau byth yn opsiwn, yn hytrach bydde i’n bwrw ymlaen gyda fy mywyd felse popeth yn iawn. Doedd e ddim. Mae e wedi cymryd hyd nawr i mi medru sylweddoli y tristwch wnes i brofi. Colles i Dad, y dyn wnaeth ddysgu fi nofio, helpu gyda fy ngwaith cartref Mathemateg, y dyn o’dd wastod yn rhoi fi gynta’, y dyn oedd fod i gerdded fi lawr yr aisle wrth briodi a dod yn Dadcu cariadus rhyw ddiwrnod. Ond doedd hynny ddim i fod.

Fast forward pymtheg mlynedd yn ddiweddarch a dyma fi’n wynebu colli rhiant arall. Fy Mam ofalgar, 52 mlwydd oed, oedd yn ymladd am ei bywyd yn yr uned gofal dwys. Yr unig ffordd o ddisgrifio’r cyfnod yma yw rollercoaster. Cyfnod hollol heriol, ac oherwydd Covid doedd dim hawl i ni ymweld. Roedd e wir mor dor-calonnus. Ond y tro hyn, nid dim ond fi oedd yn wynebu’r golled, ond roedd fy ngwr yn colli Mam yng nghyfraith ac ein merched yn colli Nana. Roedd dweud i’r merched, a oedd yn 8, 6 a 3 ar y pryd, bod Nana wedi marw yn brofiad ddylai neb fynd drwyddi. Yn ystod diwrnodau diwethaf gyda Mam roeddwn ni’n gobeithio am y gorau, ond yn paratoi am y gwaethaf. Fe wnaeth hi ei gorau i ymladd tan y diwedd ond yn anffodus doedd e ddim yn ddigon.

Roedd y cyfnod ar ôl colli Mam eto yn blur, ond y tro hyn roedd gen i angladd i drefnu, papurau i’w sortio a chartref fy hun i ofalu amdano.

Un peth rydw i wedi sylweddoli y tro hyn yw pwysigrwydd siarad. Siarad am fy nheimladau, y farwolaeth a’r brofedigaeth. Mae siarad yn agored gyda Arwel a’r merched wir wedi helpu ni gyd wrth alaru. Mae bod yn onest gyda’r merched yn golygu eu bod nhw’n deall beth sydd wedi digwydd a mae nhw mwy na pharod i ofyn y cwestiynau anodd.

Ond fel cymuned ry’ni dal yn gweld hi’n anodd siarad am alar. Pam mae marwolaeth yn rhywbeth rydym yn ofn ei drafod? Mae’n rhywbeth sydd yn bendant mynd i ddigwydd i ni gyd, ond eto mae siarad a’r stigma am y peth dal yn bodoli. Dwi dal yn gweld pobol yn fy anwybyddu ar bwrpas oherwydd dy nhw ddim yn gwybod beth i neud nac ei ddweud wrthai ers colli Mam. Ond, a oes y peth ‘iawn’ i ddweud? Mae’n hollol bwysig medru cydnabod y golled a dangos empathi tuag at ein gilydd.

Fel teulu ry’ni’n ceisio normaleiddio’r galar gyda’n gilydd wrth siarad am Dad a Mam trwy’r amser. Rydym yn trafod atgofion Mam yn aml ac yn ei chynnwys hi yn ein sgyrsiau pob dydd. Roedd hi’n rhan enfawr o fywyd y merched a gallwn ni byth ei hanghofio ni. Ma hyn yn gwneud i’r merched sylweddoli ei fod hi’n iawn iddyn nhw siarad, cofio, a rhannu yr hyn wnaeth Nana ddysgu iddyn nhw.

Bydda i wastod yn meddwl a chofio am Dad a Mam a bydd y tristwch yna byth yn diflannu. Ond, rwy’n gobeithio bydd y diolchgarwch, y balchder, a’r anrhydedd o’u cael nhw yn fy mywyd yn tynnu trwyddo a dylanwadu ar weddill fy siwrnau.