Cyfle i ymuno â thîm meddwl.org!
Oes gen ti ddiddordeb mewn cyfrannu at waith meddwl.org a gwneud gwahaniaeth ym maes iechyd meddwl?
Wyt ti eisiau cwrdd â phobl newydd, datblygu sgiliau, a gweithio gyda thîm brwdfrydig a chefnogol?
Ymgeisia i fod yn rhan o dîm meddwl.org!
Wrth i waith meddwl.org ddatblygu, rydyn ni’n chwilio am ragor o aelodau i’r tîm bach o wirfoddolwyr sy’n rhedeg yr elusen o ddydd.
Rydyn ni’n chwilio yn benodol am gymorth gyda’r gwaith isod:
- Codi arian (chwilio am grantiau posib a threfnu digwyddiadau i godi arian)
- Cyfryngau (siarad ar ran meddwl.org mewn cyfweliadau gyda’r cyfryngau ac mewn digwyddiadau)
- Cyfryngau cymdeithasol
- Blogiau (chwilio am a golygu cyfraniadau i’r wefan)
- Cynnwys (sicrhau bod y wybodaeth ar y wefan yn gyfredol ac yn hawdd i’w ddarllen)
- Cydweithio gyda sefydliadau a mudiadau eraill ar brosiectau
- Nwyddau (meddwl am nwyddau newydd a hyrwyddo ein nwyddau presennol)
- Trefnu digwyddiadau
- Dylunio
Gwybodaeth bellach
- Mae hon yn rôl wirfoddol, ond byddwn yn ad-dalu treuliau rhesymol.
- Rydyn ni’n chwilio am unigolion newydd i’r tîm am gyfnod o un flwyddyn i ddechrau, gydag opsiwn i ymestyn.
- Nid oes rhaid i ti gael profiad blaenorol o fod yn aelod o bwyllgor.
- Ni fydd rhaid i ti wneud unrhyw beth nad wyt ti’n gyfforddus yn ei wneud.
- Nid oes ots am safon dy Gymraeg.
Ymrwymiad i Gydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae meddwl.org wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ym mhob agwedd ar ein gwaith a’n gweithgareddau. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bawb, gan werthfawrogi’r amrywiaeth o wirfoddolwyr sy’n cyfrannu at ein tîm. Mae’n bwysig i ni sicrhau bod pob unigolyn yn cael ei drin gydag urddas a pharch, ac rydyn ni’n ymwybodol o’r angen i gynrychioli cymunedau a grwpiau sydd heb eu cynrychioli’n ddigonol yn ein tîm presennol. Felly, rydyn ni’n yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, a Phobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.
Os oes gen ti unrhyw gwestiwn, neu os hoffet ti sgwrs anffurfiol cyn llenwi’r ffurflen, cysyllta â ni ar gwefanmeddwl@gmail.com.
I ymgeisio, llenwa’r ffurflen hon erbyn canol nos, dydd Sadwrn, 28 Medi.