‘Tan-gyfeirio’ pobol hŷn â phroblemau iechyd meddwl : Golwg360

Dyw llawer o gleifion iechyd meddwl sy’n hŷn ddim yn cael y driniaeth fwyaf effeithiol, yn ôl arbenigwyr.

Mae astudiaeth newydd yn honni nad yw cleifion oedrannus yn cael eu cyfeirio’n ddigonol ar gyfer therapïau siarad, er bod tystiolaeth yn awgrymu eu bod nhw’n elwa mwy o’r rheiny na phobol iau.

Mae’r ymchwil wedi’i arwain gan Dr Sophie Pettit o Brifysgol Gorllewin Llundain gan archwilio 80,000 o gleifion.

Roedd eu hastudiaeth yn dangos fod 23% o bobol 20 – 24 oedd â phroblemau iechyd meddwl yn cael eu cyfeirio at therapïau siarad.

Ond dim ond 6% o bobol rhwng 70 a 74 oedd yn cael eu cyfeirio at therapïau o’r fath.

Darllen rhagor : Golwg360