Senedd Ieuenctid Cymru yn holi pobl ifanc am iechyd meddwl

Mae Senedd Ieuenctid Cymru wedi agor ymgynghoriad newydd er mwyn casglu barn pobl ifanc am iechyd meddwl a llesiant yng Nghymru. 

Iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc yw un o’r tri phwnc y mae’r Senedd Ieuenctid Cymru wedi dewis eu blaenoriaethu, yn dilyn pleidlais yn ystod eu cyfarfod cyntaf ym mis Chwefror 2019.

Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan 8 Awst 2020 ac, yn ogystal ag arolwg ar-lein, mi fydd y Senedd Ieuenctid yn cynnal gweithdai mewn ysgolion a sefydliadau ieuenctid ledled y wlad er mwyn rhoi’r darlun cliriaf posibl o’r hyn y mae pobl ifanc yn ei feddwl am iechyd meddwl a llesiant, a’r gwasanaethau cymorth sydd ar gael i’w helpu.

Ymateb i’r arowlg ar Survey Monkey

Darllen rhagor : Cynulliad Cenedlaethol Cymru