Neges Heddwch ac Ewyllys Da Pobl Ifanc Cymru 2018
Ers 1922, mae neges Heddwch ac Ewyllys Da ieuenctid Cymru wedi bod yn cael ei lunio’n flynyddol gyda’r bwriad o’i anfon at blant y byd.
Y Parchedig Gwilym Davies a fu’n gyfrifol am y weledigaeth, a theimlodd mai da o beth fyddai i blant y byd gyfarch ei gilydd ar un diwrnod arbennig bob blwyddyn, gan gymryd brawdgarwch dynol, heddwch ac ewyllys da fel testun i’r neges.
Bydd y neges yn newid bron yn flynyddol er mwyn adlewyrchu barn a theimladau pobl ifanc am yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru ac/neu yn rhyngwladol. Pobl ifanc sy’n llunio’r neges ac mae’n neges sy’n annog gweithredu, ymuno ac ymateb.
Eleni, mae pobl ifanc Morgannwg Ganol wedi llunio neges i’w rhannu ar 18 Mai 2018, ac mae’n amlwg bod iechyd meddwl yn bwysig iddyn nhw. Fe ymunwn â nhw, a gydag Urdd Gobaith Cymru i rannu’r neges isod gan eich gwahodd chi i wneud yr un fath:
Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2018
Clywch a dathlwch y diolch a’r gobaith sydd yn ein lleisiau.
Y diolch am y cyfleoedd sydd ym mhob agwedd o’n bywydau a’r gobaith y dylai’r cyfleoedd yma fod ar gael i bawb.
Mae angen i ni deimlo’n hyderus ynghylch pwy ydym ni fel pobl, i siarad am yr hyn sydd ar ein meddwl a lleisio’n barn, ac i ddweud os oes rhywbeth yn ein poeni.
Ond nid oes gan bawb yr un cyfle i ddefnyddio’u llais. Pan fyddwn yn teimlo’n unig neu’n bryderus mae ein gallu i ddefnyddio ein llais yn gwanhau ac mae hi’n anodd siarad am bethau sy’n effeithio arnom.
Ar adegau eraill, rydym yn lleisio ein barn i glustiau sy’n gwrando dim.
Gofynnwn:
- I bawb ein parchu pan fyddwn yn holi ac yn siarad am yr hyn sydd yn ein pryderu. Ni ddylai unrhyw un fod ofn defnyddio eu llais. Mae angen gwaredu’r stigma sydd yn gysylltiedig â mynegi emosiynau.
- Am gael gwybod pwy sy’n medru ein cynorthwyo wrth wneud dewisiadau bywyd ac at bwy y medrwn droi ar adegau unig neu bryderus.
- I bawb ddefnyddio eu llais er lles eraill, er mwyn lleihau anghydraddoldeb a thlodi, gan fanteisio ar y llwyfannau a’r ymgyrchoedd sydd yn galluogi newid.
Mae gan bawb lais: ein gobaith yw fod gan bawb yr un cyfle i ddefnyddio eu llais.
Mae angen i ni bobl ifanc fanteisio ar unrhyw gyfle i godi ymwybyddiaeth o’r anghydraddoldebau sydd yn bod ar draws y byd.