Un o gystadleuwyr yn rownd derfynol Miss Cymru yn rhannu ei phroblemau iechyd meddwl : WalesOnline

Mae un o gystadleuwyr yn rownd derfynol Miss Cymru wedi rhannu ei phrofiadau o broblemau iechyd meddwl ac yn annog pobl ifanc i beidio â theimlo cywilydd wrth ofyn am gymorth.

Dywedodd Miriam Collett, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, i’w phrofiadau iechyd meddwl ddechrau fis Mawrth llynedd pan ddechreuodd deimlo’n isel ac yn bryderus – a chyrhaeddodd bwynt lle nad oedd arni eisiau gadael ei chartref.

Dywedodd y ferch 23 oed mai dweud wrth ei theulu, ac wedyn ei meddyg, oedd y peth gorau y gallai hi fod wedi ei wneud.

Mae hi’n cynrychioli Caerdydd yng nghystadleuaeth Miss Cymru ar yr 8fed o Ebrill, ac ynghyd â chystadleuwyr eraill yn y rownd derfynol, mae hi’n codi arian ac ymwybyddiaeth i’r elusen i blant, ‘Beauty with a Purpose.’

Dywedodd Miriam, sydd â gradd mewn darlunio ac sydd bellach yn gweithio i gwmni estyniadau gwallt, bod arni eisiau codi ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl i bobl ifanc.

Dywedodd: “Rwy’ wedi cael profiadau o iselder a gorbryder. Mae fy hwyliau wedi bod yn dueddol o suddo yn achlysurol erioed, ond roeddwn i’n aml yn rhesymu mai hormonau a thyfu fyny oedd i’w feio am hynny. Ond gwaethygodd pethau o gwmpas mis Mawrth llynedd. Doeddwn i ddim eisiau gadael y tŷ, ac roeddwn i’n teimlo’n bryderus ac yn cael pyliau o banig. Rwy’n lwcus iawn, oherwydd mae fy mam yn gwnselydd, ac mae ganddi brofiad o  therapi ymddygiad gwybyddol. Gwnaeth hi fy mherswadio i weld meddyg, a dyna oedd un o’r pethau gorau y gwnes i. Daeth hynny a mi allan o’r iselder a fy helpu i ymdopi gyda phethau yn well.

“Rwy’n gwybod nad oedd cynddrwg a beth mae llawer o bobl ifanc yn gorfod ymdopi gyda, ond rwyf eisiau codi ymwybyddiaeth o’r ffaith bod cymaint o bobl fy oed i yn dioddef. Does neb wir yn siarad am iselder a gorbryder llawer. Mae hynny’n rhywbeth rwyf eisiau ei gael o’r profiad o fod yn rhan o Miss Cymru. Rwyf wedi bod mewn cyswllt gyda’r elusen Mind Cymru, ac rwyf eisiau dweud wrth bobl ifanc nad gwendid yw siarad am iechyd meddwl.

“Dydy derbyn cymorth cwnsela na chymryd meddyginiaeth ddim yn rhywbeth i fod â chywilydd ohono. Rwy’n falch fy mod i’n dod o deulu o fenywod cryf, ac mae gen i grŵp da o ffrindiau, ac mae eu cefnogaeth nhw wedi bod yn bwysig iawn.”

Daeth Miriam yn rhan o Miss Cymru yn ystod mis Hydref wedi i ffrind iddi, a gystadlodd llynedd, ei hannog i wneud cais.

Ychwanegodd: “Dywedodd fy ffrind ei fod yn llawer o hwyl, ac y dylwn i gymryd rhan. Mae’r profiad o fod yn rhan o Miss Cymru wedi bod yn gyfle i gyfarfod â llawer o fenywod ifanc anhygoel – rydyn ni’n grymuso ein gilydd ac o hyd yn cael hwyl. Bydd yr arian y byddwn yn ei gasglu yn mynd yn uniongyrchol i helpu plant yng Nghymru. Rwyf wedi bod yn gwneud mân bethau yn unig ar hyn o bryd, ac yn cymdeithasu â phobl a grwpiau gwahanol. Mae gen i rai digwyddiadau i godi arian cyn y rownd derfynol ym mis Ebrill.”

Stori wreiddiol: www.walesonline.co.uk (Saesneg)