Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth
Rydyn ni’n hynod o falch i rannu bod meddwl.org wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth y BBC eleni yn y categori Grŵp Cymunedol.
Mae’r Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth yn dathlu’r bobl sy’n gwella’n cymunedau er lles eraill.
Mae cynrychiolaeth Cymraeg ym maes iechyd meddwl mor bwysig i ni ac rydym yn gwneud ein gorau i ddod â gwybodaeth, profiadau ac adnoddau iechyd meddwl Cymraeg i bobl Cymru.
Cynhelir y seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd ym mis Medi.