Digwyddiadau yn Eisteddfod yr Urdd 2019

Wyt ti’n meiddio dod i siarad?

Dewch draw i wrando ar sgwrs am y neis a’r anodd mewn bywyd efo Osian Huw Williams

Dydd Mercher, 29 Mai, 2yp, Tipi Syr IfanC yn Eisteddfod yr Urdd

Ymunwch â’r digwyddiad Facebook

Mae gan bawb iechyd meddwl

Ymunwch â ni i lansio ein pecyn cymorth Cymraeg i athrawon Cyfnod Allweddol 3 – ‘Mae gan bawb iechyd meddwl’

  • Sophie Ann (meddwl.org)
  • Aled Roberts (Comisiynydd y Gymraeg)
  • Dilwyn Roberts-Young (UCAC)
  • Ffion Griffith (Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros Islwyn ac aelod o Bwyllgor Iechyd Meddwl y Senedd Ieuenctid)
  • Ethan Williams (Llywydd Urdd Gobaith Cymru a Chadeirydd Bwrdd Syr Ifanc)

Dydd Iau, 30 Mai, 2yp, Tipi Syr IfanC, Eisteddfod yr Urdd

Argraffwyd y pecyn diolch i grant gan Ras yr Iaith.

Ymunwch â’r digwyddiad Facebook

Gwybodaeth am y pecyn

Dros y misoedd diwethaf rydym wedi bod yn cydweithio gyda’r ‘Anna Freud National Centre for Children and Families’ i addasu pecyn cymorth iechyd meddwl i athrawon uwchradd i’r Gymraeg.

Mae’r pecyn yn seiliedig ar animeiddiad ac yn llawn adnoddau cynorthwyol megis posteri, cynlluniau gwersi a chyflwyniadau parod, taflenni gweithgareddau a llyfrynnau gwybodaeth defnyddiol i rieni ac i athrawon ynghylch sut y gallent gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc. Mae’r pecyn wedi ei anelu at ddisgyblion uwchradd cyfnod allweddol 3 (blynyddoedd 7-9).

Bydd y pecyn hefyd yn caniatáu pobl ifanc i drafod ac ystyried eu hiechyd meddwl drwy gyfrwng eu mamiaith, yn rhoi arweiniad i’w rhieni ar agor y drafodaeth drwy iaith yr aelwyd, ac yn cyfrannu at yr ymdrechion i gyflwyno’r iaith mewn cyd-destun gwahanol.

Gellid defnyddio’r pecynnau hyn yn ehangach o fewn y gymuned hefyd, gan unigolion sy’n gweithio â phobl ifanc ymhob maes, darparwyr gofal, a chlybiau ieuenctid.