Y Pethau Bychain

Ar-lein, Conwy, Gwynedd, Sir Ddinbych, Sir Fôn, Sir y Fflint

Rydym yn ddwy gyn-athrawes sy’n angerddol am gefnogi iechyd meddwl trwy allfeydd creadigol yn yr awyr agored. Mae gennym ddiploma mewn addysg sy’n seiliedig ar drawma ac rydym yn ymweld â ysgolion neu defnyddio ein safle coedwig ym Methesda i ddarparu hyfforddiant a gweithdai ynghylch sut mae cysylltedd natur yn cefnogi lles. Rydym yn awduron ac yn creu adnoddau addysgol amrywiol i gefnogi lles. Rydym wedi ein hyfforddi i ddefnyddio egwyddorion ysgol goedwig, ymwybyddiaeth ofalgar ac ioga i hybu lles plant a phobl ifanc.