Trit Reflexology

Ceredigion, Sir Benfro

Eiry Evans ydw i ac yn byw yn Bow Street, Aberystwyth, Ceredigion. Wastad wedi ishe hyfforddi yn adweitheg a phan adawodd y plant y nyth baches ar y cyfle i hyfforddi ar y penwythnose yn West Shires School of Complementary Health lawr yng Nghaerfyrddin. Erbyn hyn dwi:

  • Wedi hyfforddi yn adweitheg ers 6 blynedd bellach.
  • Wedi cymhwyso yn adweitheg traed, dwylo a wyneb, Functional Reflexology, Butterfly touch, Cranial Reflexology, Indian Head Massage, Baby massage.
  • Wedi gweithio gyda elusen HAHAV yn Aberystwyth am dros dair blynnedd yn wythnosol yn rhoi adweitheg i rhai oedd yn diodde’ o iselder ysbryd, strokes, clefyd y galon, parkinsons, alzheimers, dementia a cancer (wedi gwneud hyfforddiant arbenig i gancer o dan y teitl Butterfly touch, sydd yn cynnwys gwasanaeth diwedd oes.)