Ymarfer Symudiad 5Rhythms
Mae Rosie Bufton yn athrawes 5Rhythms dan hyfforddiant, yn ogystal â bod yn therapydd drama ac yn therapydd celfyddydau amgylcheddol gyda dros ddegawd o brofiad o weithio ym maes iechyd meddwl.
Rwyf wedi bod yn dawnsio 5Rhythms ers dros 10 mlynedd. Mae’n ymarfer myfyrdod trwy symudiad a ddatblygwyd gan Gabrielle Roth yn yr Unol Daleithiau yn y 1960au, ac mae bellach yn cael ei ymarfer ledled y byd.
Mae 5Rhythms yn ymarfer myfyrdod deinamig sy’n symud drwy bum rhythm penodol: Flowing, Staccato, Chaos, Lyrical, a Stillness. Trwy’r rhythmau hyn, cawn ein gwahodd i symud ein cyrff yn rhydd a mynegi ein hunain, gan ddefnyddio symudiad fel ffordd o gysylltu’n ddyfnach â ni’n hunain.
Mae dawns yn cynnig manteision sylweddol i iechyd meddwl a lles. Mae’n ffordd o fynegi emosiwn, datblygu ymwybyddiaeth corfforol, ac ailgysylltu â’r hunan. Gall ymarfer symudiad rheolaidd gefnogi iechyd corfforol yn ogystal â lles gwybyddol.
Mae ymarfer 5Rhythms yn ychwanegu dyfnder at hyn. Dechreuwn gyda Flowing, gan ddod o hyd i symudiad parhaus, yn aml gylchol, ffordd o adael i bethau lifo i mewn a dechrau symud yr egni. Mae hyn yn arwain at Staccato, rhythm eglurder, ffiniau a diffiniad, wedi’i fynegi trwy symudiadau mwy miniog a bwriadol.
Mae’r ddau rhythm hyn yn adeiladu tuag at Chaos, lle mae strwythyr yn chwalu. Yma rydym yn ysgwyd, yn rhyddhau, ac yn gadael fynd o densiwn, straen, ac unrhyw beth rydym wedi bod yn ei ddal. Pan fyddwn wedi gadael i fynd yn llwyr, symudwn yn naturiol i Lyrical, sef ysgafnder ac agoredrwydd sy’n dilyn rhyddhad, ymdeimlad o ryddid a phosibiliad.
Yn olaf, cyrhaeddwn Stillness, lle mae symudiad ac anadl yn uno. Nid diffyg symudiad yw llonyddwch o reidrwydd, ond man o bresenoldeb, o fod.
Gyda’i gilydd, mae’r rhythmau hyn yn ffurfio’r hyn a elwir yn don. Gall dawnsio’r don newid egni, rhyddhau’r hyn sydd wedi’i ddal, tawelu’r meddwl, a dod â theimlad o gyfanrwydd a heddwch.
I mi, mae 5Rhythms wedi bod yn un o’r ymarferion mwyaf trawsnewidiol yn fy mywyd. Rwy’n hyfforddi ar hyn o bryd i fod yn athro yng Nghymru, (y dysgwr cyntaf o Gymru ers 20 mlynedd ac yr unig siaradwr Cymraeg) ac rwy’n teimlo’n freintiedig iawn o fod yn rhan o’r garfan eleni.
Fy mwriad yw cynnig sesiynau 5Rhythms trwy gyfrwng y Gymraeg. Rwy’n gweld bod gweithio yn y Gymraeg yn fy helpu i deimlo’n fwy cysylltiedig â fi fy hun a’m corff; mae’r iaith yn atseinio ac yn dirgrynu mewn ffordd somatig arbennig.
Byddaf yn cynnig sesiynau ledled De Cymru, gan gynnwys Abertawe a Phontypridd, gyda’r bwriad o gynnig rhywbeth yng Nghaerdydd yn y dyfodol agos.

