Pam fod cymorth yn dod i ben ar ben-blwydd arbennig? : BBC
Bob blwyddyn, mae miloedd o bobl ifanc sydd â chyflwr iechyd meddwl yn gweld y cymorth y maent yn ei dderbyn yn dod i ben yn sydyn pan fyddant yn cyrraedd pen-blwydd arbennig.
Ar draws Ewrop, bydd hyn rhywle rhwng 16 a 21 oed, sy’n nodi’r cyfnod y daw gofal gan wasanaethau plant i ben. Yn y DU, mae cymorth Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) fel arfer yn parhau hyd at 18 oed.
Mae angen cefnogaeth a thriniaeth barhaus ar lawer o’r bobl ifanc hyn, ond mae nifer ohonynt sy’n symud i ofal oedolion yn teimlo eu bod wedi eu gadael, eu hesgeuluso neu eu bod yn derbyn gofal gwael. Mae eraill yn methu â chael unrhyw gymorth o gwbl gan wasanaethau oedolion ac mae eu gofal yn dod i ben yn llwyr.
Nid yw rhai pobl ifanc yn gallu mynychu’r ysgol, gweld eu ffrindiau neu hyd yn oed adael eu hystafelloedd gwely.
Mae’r amser heriol hwn yn aml yn cyrraedd ochr yn ochr â newidiadau cyflym eraill fel gadael cartref, mynd i’r brifysgol, dechrau gwaith neu ddechrau perthynas newydd.
Casglwyd profiadau pobl ifanc sy’n gadael CAMHS a mynd i mewn i wasanaethau iechyd meddwl i oedolion. Mae eu straeon yn drawiadol ac yn aml mae ganddynt nodweddion cyffredin:
- Cael eu rhyddhau o gwmpas eu pen-blwydd yn 18 oed a heb gael gwybod am opsiynau
- Dywedir wrthynt nad ydynt yn “ddigon sâl” ar gyfer gwasanaethau oedolion
- Wedi gorfod perswadio gwasanaethau oedolion fod angen cymorth arnynt
- Penderfyniadau wedi eu gwneud amdanynt, heb iddynt gael cymryd rhan yn y penderfyniadau hynny
- Gorfod ailadrodd eu stori dro ar ôl tro
Nid yw’n anghyffredin iddynt aros am apwyntiadau gyda gwasanaeth oedolion am flwyddyn neu hwy – dim ond wedyn i gael gwybod na fydd y gwasanaeth yn eu derbyn.