Galar rhagweledol
Dyma’r peth am alar – er ein bod yn meddwl amdano am rhywbeth sy’n digwydd ar ôl marwolaeth, yn aml mae’n digwydd ymhell cyn i farwolaeth gyrraedd.
Unwaith y bydd marwolaeth ar y gorwel, hyd yn oed fel posibilrwydd, mae’n naturiol ein bod yn dechrau galaru. Er bod hyn yn wahanol i’r galar sy’n dilyn marwolaeth, gall galar rhagweledol (anticipatory grief) fod yn debyg iawn i alar arferol o ran symptomau – gall achosi teimladau o dristwch, dicter, unigedd, anghofrwydd, ac iselder.
Mae’r emosiynau cymhleth hyn yn aml yn cael eu cyplysu â’r blinder sy’n dod gyda bod yn rhoddwr gofal. Rydym yn ymwybodol o’r marwolaeth ar y gorwel ac yn derbyn y bydd yn dod, a all sbarduno gorbryder ac ofn llethol. Yn fwy na hynny, cyn marwolaeth rydym yn galaru’r ffaith bod y person yn colli galluoedd ac annibyniaeth, colli gwybyddiaeth, colli gobaith, colli breuddwydion y dyfodol, colli sefydlogrwydd a diogelwch, colli eu hunaniaeth a’n hunaniaeth ein hunain, a llawer mwy.
Pan y byddwn yn gwybod bod marwolaeth ar fin digwydd mae ein cyrff yn aml yn mewn cyflwr o orgynnwrf – rydym yn cynhyrfu pryd bynnag y bydd y ffôn yn canu, pan fydd angen galw ambiwlans, neu pan fydd ein hanwyliaid yn dirywio. Gall hyn fynd yn flinedig yn feddyliol ac yn gorfforol.
Mae’r un peth yn wir am wylio rhywun annwyl yn dioddef, sydd bron bob amser yn rhan o salwch hirdymor. Mae gofalu amdanynt wrth iddynt ddioddef yn cael effaith emosiynol arnom. Gall hyn oll gyfrannu at ymdeimlad o ryddhad pan ddaw’r farwolaeth yn y pen draw, ac euogrwydd a all ddod gyda’r rhyddhad hwnnw.
Pethau i’w cofio wrth ddelio â Galar Rhagweledol
- Derbyn bod galar rhagweledol yn normal. Rwyt ti yn normal ac mae teimlo galar cyn marwolaeth yn normal. Mae’n iawn i ti deimlo’r math yma o alar. Mae hon yn ffenomenon cyffredin sydd wedi’i ddogfennu ers bron i ganrif. Dwyt ti ddim ar ben dy hun!
- Cydnabod yr hyn rydych chi’n ei golli. Gall pobl ddweud pethau annefnyddiol fel, “o leiaf mae dy fam yn dal i fod yma” sy’n lleihau yr hyn yr ydych yn ei brofi. Gad i dy hun gydnabod, er nad yw’r person wedi marw, dy fod yn galaru.
- Cysylltu ag eraill. Mae galar rhagweledol yn gyffredin ymysg rhoddwyr gofal, ond yn anffodus pan dreulir eich holl amser yn rhoi gofal efallai y byddwch yn teimlo’n ynysig. Ymchwiliwch i grwpiau cymorth ar gyfer rhoddwyr gofal, fel y medrwch gysylltu ag eraill sy’n deall yr heriau yr ydych yn eu hwynebu, gan gynnwys galar rhagweledol.
- Cofiwch nad yw galar rhagweledol yn golygu eich bod yn rhoi’r gorau iddi. Cyn belled â’ch bod yno i’w cefnogi, nid ydych yn rhoi’r gorau iddi ar aelod o’r teulu neu ffrind. Daw adeg pan fyddwn yn aml yn derbyn bod salwch yn derfynol a bod gwella bellach ddim yn bosibilrwydd. Ceisiwch ganolbwyntio ar yr hyn yr ydych yn ei wneud – parhau i gefnogi, gofalu, caru, treulio amser gyda’ch gilydd, ayb. Rydych yn symud eich egni o obaith i wella am obaith am amser ystyrlon a chyfforddus gyda’ch gilydd.
- Myfyrio ar yr amser sy’n weddill. Ystyriwch sut byddwch chi a’ch anwylyd am dreulio’r amser hwn gyda’ch gilydd. Er efallai na fydd yr hyn yr ydym eisiau bob amser yn bosib, gwnewch eich gorau i dreulio’r amser sy’n weddill gyda’ch gilydd mewn ffordd sy’n ystyrlon i chi a’ch anwylyd.
- Cyfathrebu. Yn union fel yr ydym i gyd yn galaru’n wahanol, mae galar rhagweledol yn wahanol i bawb. Gall cadw’r llinellau cyfathrebu yn agored helpu pawb i ddeall ei gilydd yn well.
- Edrych ar ôl eich hun. Mae hyn yn haws dweud na gwneud, ond mae’n wir. Ystyriwch hunan-ofal, yoga, ysgrifennu neu ymwybyddiaeth ofalgar. Cofiwch yr hen ystrydeb, fedrwch chi ddim gofalu am eraill os nad ydych yn gofalu amdanoch eich hun yn gyntaf.
- Manteisiwch ar eich system gymorth. Gall darparu gofal a galar rhagweledol fod yn daith hir. Gwnewch asesiad o’ch systemau cymorth fel eich bod yn gwybod pa bobl all eich helpu (a phwy y gallech fod am eu hosgoi!).
- Ystyriwch gwnsela. Mae cwnsela yn ddefnyddiol i bobl sydd yn syml angen lle i brosesu eu hemosiynau cymhleth a chael rhywfaint o amser i chi eich hun.
- Mae rhyddhad yn normal. Pan fydd rhywun yn marw ar ôl cyfnod hir ac anodd o ofalu, efallai byddwch yn teimlo rhyddhad, ond gall hyn hefyd arwain at deimladau o euogrwydd. Cofiwch nad yw teimlo rhyddhad ar ôl marwolaeth ddisgwyliedig yn golygu nad ydych yn caru’r person ddim llai. Mae’n ymateb arferol yn dilyn cyfnod llawn straen yn eich bywyd.
- Peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd hyn naill ai’n cyflymu neu’n arafu eich galar ar ôl y marwolaeth.
Rydym i gyd yn galaru yn wahanol.
[Ffynhonnell: What’s your grief?]