‘Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl Plant’

Cyhoeddwyd y darn isod yn wreiddiol yng ngholofn Manon Steffan Ros yng nghylchgrawn Golwg ar 7 Chwefror 2019.

Weithie, fi bron â gweud rhywbeth wrth Mam. Fel arfer, amser brecwast ar benwythnos, pan fi’n ishte wrth y bwrdd yn y gegin ac ma’ hi’n llwytho’r dishwasher neu’n gwneud tost. Ma’ Mam yn edrych yn dlysach ar benwythnosau, ‘da’i gwallt i lawr yn rhydd a dillad llac amdani, ac mae’n cerdded o gwmpas y lle heb ‘sgidie am ei thra’d. Ma’ hi’n gwenu mwy ac yn gweiddi llai.

Dyna pryd fi’n teimlo ‘mod i ishe gweud rhywbeth wrthi, a fi bron iawn â’i ddweud e, ond dyw’r geirie byth yn dod. Fi ddim yn siŵr beth fi moyn gweud.

Bydd Mam yn mynd â fi am dro weithie, neu’n mynd â fi lawr i’r dre i edrych rownd y siopau ac i gael siocled poeth. ‘So hi’n annoying fel rhai mame, a ‘so hi’n trio’n rhy galed chwaith. Felly pan ni’n cerdded yn y parc neu’n ishte lawr yn Costa ac ma’ Mam yn gofyn, “Shwt ma’ pethe ‘da ti te, bach? Popeth yn ocei ‘da’r ysgol a dy ffrindie’ di a phopeth?” bydden i’n gallu ateb fel fi moyn. Bydde hi’n ocei.

Bydden i’n gallu gweud, “Fi’n neud yn iawn yn yr ysgol Mam, a fi’n gwneud fy ngore, ond dyw ‘na ddim yn ddigon da, a fi’n credu fod rhywbeth yn bod ‘da Miss Williams achos dyw hi byth yn edrych yn hapus ac ma’ hi’n poeni o hyd.

Bydden i’n gallu gweud, “Ma’ ffrindie fi’n iawn Mam, ond ma’ nhw mor bert ar Insta, a fi’n teimlo’n dew ac yn hyll pan ‘wi’n edrych arnyn nhw. A chi ddim fod i fod yn eiddigeddus o’ch ffrindie, ond fi yn.

Bydden i’n gweud, “fi methu cysgu yn y nos Mam, a fi moyn cwtsh ond ti angen brêc wrtho i weithie.

Bydden i’n gallu gofyn, “Beth yn union yw Brexit a pham bo’ pawb yn mynd on am byti mor ofnadwy mae pethe’n mynd i fod? Ydyn ni’n mynd i redeg mas o fwyd? Fydda i’n dal i allu cael fy moddion asthma?

“Ydy Donald Trump mor ddrwg â ma’ pobol yn gweud ar y we, Mam?

Rhai boreau, fi bron iawn â dweud rhywbeth, bron iawn â agor fy ngheg – “Fi ddim yn teimlo’n ocei, Mam.” Ond fel ma’r geirie ar fin dod mas, ma’ Mam yn codi ei ffôn i edrych ar rywbeth, ac ma’r cyfle wedi mynd ‘to.