Twyll
Amhuredd yn dy feddwl.
Dagrau’n gaeth i waliau dy ymennydd,
Ond llifo wnânt ym mhreifatrwydd dy obennydd.
Cuddio gwg tu ôl i fwgwd bo
Gwen ffug ‘di parlysu ar dy wefus,
Boddi’r lleisiau yn dy ben â sgwrs barablus.
Yn dy ben troella’r gwenwyn,
Dy chwerthiniad mor wag ag adfail,
Dy feddyliau yng nghlwm yn nwylo’r cythraul.
Mae’n galed i dy gredu,
Ffrâm goch yn amlinellu dy lygaid,
Cwmwl o dristwch yn meddiannu dy enaid
Ti’n esgus bod hapusrwydd,
Ond gwêl pawb y crac yn y llun
Wel pawb heblaw, efallai, amdanat ti dy hun.