Glas

Cerdd a gyfansoddwyd ar gyfer ‘Blue Monday‘ gan Iestyn Tyne fel rhan o brosiect Bardd y Mis Radio Cymru yn Ionawr 2017. Mae’r gerdd hefyd wedi’i chyhoeddi yn ei gyfrol gyntaf, ‘Addunedau.

Geiriau’r gerdd

Dyma ddydd Llun blin
yn ôl rhai;
dydd Llun yn llawn o’r glas
glasa’n bod…

Dyma’r diwrnod, meddan nhw
a dweud
fod pob trai yn sychu’r tir
am ei bod hi’n poeri eirlaw;
am fod ein hangovers ni’n mynd yn waeth;
am ddyrnu gwario’r dolig…

Ond
nid dewis ydi disgyn am dro
i’r lle tywylla’n bod

ac mae ‘na rai
â phob dydd Llun yn llawn
o ddagrau gwydr glas.