Deallaf am y clytwaith o feddyliau sy’n dy ben
Cerdd gan Megan Haf i nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2020.
Deallaf am y clytwaith
o feddyliau sy’n dy ben.
Mae’n anodd gwahaniaethu
y ffeithiau a’r ffuglen.
Mae adlewyrchiad drychau,
yn torri dy galon di.
Yn y nos mae’n anodd cysgu,
a does neb yn clywed dy gri.
Mae’n hollol iawn i grio,
hyd yn oed os does dim rheswm.
Mae’r cymylau’n crio hefyd,
pan mae pethau’n rhy drwm.
Rhaid rhannu dy ofidiau,
gyda rhiant, athro, ffrind.
Yn ara’ deg fe sylwi di,
dy ofidiau’n dechrau mynd.
Ti’n gryfach na’r meddyliau,
clywch fy ngeiriau i.
Ti ddim yn brwydro iechyd meddwl,
mae iechyd meddwl yn dy frwydro di!