Bore

Bore melyn, melys, mwyn,
Neu dynnu’r cwilt reit dros dy drwyn.

Bore pan nad oes awydd codi,
Bore pan neidi o dy wely.

Bore glaswyn fel llaeth enwyn,
Neu deimlo dy hun ar bigau’r eithin.

Bore blin ’rôl codi’n hwyr,
A threulio’r dydd ‘di blino’n llwyr.

Bore o ddeffro gyda’r wawr,
A llamu’r grisiau ‘fo camau cawr.

Bore lliwgar yn dy lenwi,
Bore â phryder yn dy lethu.

Bore gwyn yn llawn gobeithion,
Bore o gyfri dy fendithion.

Bore euog, bore syn,
Bore ‘be dwi’n neud fan hyn?’

Bore i godi yng nglas y dydd,
Wfft i’r byd a thorri’n rhydd.

Bore heriol, bore gwych,
Neu’r wyneb diarth yn y drych.

Bore llawen, bore llwm,
Bore ysgafn, bore trwm.

Bore heulog hafaidd, hir,
Bore i dderbyn beth yw’r gwir.

Bore hapus ar ei hyd,
Bore anodd wynebu’r byd.

Bore ‘dim heddiw, neith yfory’,
Bore â phob eiliad i’w thrysori.

Bore gloyw llawn syniadau,
Bore â’th galon yn dy sgidiau.

Bore o aeaf, bore o ha’,
Bore i ddweud ‘ti ddigon da’.

Pan ddaw bore llawn amheuon,
I dy fygwth o’r cysgodion,
Paid â choelio dy feddyliau,
Maen nhw’n pasio, fel cymylau.

Os bore heddiw oedd yn dy flino,
Bore fory ddaw i’th swyno.

Morwen Brosschot (@YmaFanHyn)