A Jest Fel Yna…
A jest fel yna nath fy myd i stopio.
‘Rôl derbyn galwad ffôn hunllefus wnaeth imi feichio crio.
A jest fel yna roedd fy mywyd i ar chwâl
Fy stumog i’n troi nes oni’n teimlo’n sâl.
A jest fel yna daeth dy fywyd di i ben.
Gen i gymaint o gwestiynau yn mynd rownd fy mhen.
A jest fel yna does dim byd yn gwneud synnwyr.
Beth oedd yn mynd trwy dy feddwl di, Duw a ŵyr?
A jest fel yna roedd rhaid ffarwelio â ti.
Tasa ti ‘mond yn gwybod faint oeddet ti’n ei feddwl i ni.
A jest fel yna dwi’n mynd o ‘nghôf
Wedi mynd mewn i dwll mor ddu fel ogof.
A jest fel yna mae blwyddyn wedi mynd heibio
Blwyddyn anodd, blwyddyn rhyfedd, blwyddyn o alaru a chrio.
A jest fel yna mae’r dyddiau’n teimlo’n hir
Hyd heddiw tydi o dal ddim yn teimlo’n wir.
A jest fel yna mae ‘mywyd i’n gorfod mynd yn ei flaen.
Tasa pethau ‘mond fel yr oedda nhw o’r blaen.