Anhwylderau Bwyta

Eating Disorders

Anhwylder bwyta yw pan fydd unigolyn yn datblygu agwedd nad yw’n iach tuag at fwyd sy’n ei achosi i newid ei ymddygiad a’i diet yn sylweddol.

Weithiau byddwn ni’n ceisio bwyta’n fwy iach, yn bwyta mwy na’r arfer neu yn colli ein harchwaeth. Mae newid eich arferion bwyta o dro i dro yn normal. Ond, os yw bwyd a bwyta yn teimlo fel petai’n rheoli eich bywyd, efallai ei fod yn broblem.

Bydd rhywun yn datblygu anhwylder bwyta oherwydd ei fod yn teimlo fel datrysiad i broblemau neu deimladau anodd sydd ganddyn nhw. Bydd llawer o bobl yn credu bod pobl sydd â phroblem fwyta dan bwysau. Ond nid yw hyn yn wir. Gall unrhyw un brofi problemau bwyta, beth bynnag yw eu hoed, rhywedd, pwysau neu gefndir.

Mae sawl gwahanol math o anhwylderau bwyta. Y rhai mwyaf cyffredin yw anorecsia, bwlimia ac anhwylder gorfwyta mewn pyliau (BED).

Mathau o anhwylderau bwyta

  • Anorecsia Nerfosa
    Mae pobl sydd ag anorecsia nerfosa yn dueddol o gyfyngu’n sylweddol ar faint o fwyd maen nhw’n ei fwyta, gan fwyta llai nag sy’n iach. Maent yn gwneud hyn fel arfer er mwyn colli pwysau neu cheisio newid siâp eu corff – mae’r pethau yma yn gallu bod yn brif ffocws i nifer sydd ag anorecsia.
  • Bwlimia Nerfosa
    Bydd pobl sydd â bwlimia yn aml yn gorfwyta mewn pyliau, gan wedyn wneud eu hunain yn sâl er mwyn cael gwared arno. Byddant yn gwneud hyn fel arfer drwy chwydu (‘purging’) neu drwy ddefnyddio carthyddion (‘laxatives’).
  • Anhwylder Gorfwyta Mewn Pyliau (BED)
    Yn aml, bydd unigolion sydd ag Anhwylder Gorfwyta Mewn Pyliau (‘Binge Eating Disorder’) yn bwyta prydau a fyddent yn cael eu hystyried gan nifer yn anarferol o fawr o fewn cyfnod byr, ac yn teimlo llwyr allan o reolaeth wrth wneud hynny. Ni allant reoli na rhwystro’r awch i fwyta mwy. Yn aml iawn, bydd yr unigolion yma’n teimlo’n sâl, mewn poen ac yn dioddef euogrwydd yn dilyn pyliau o’r fath.
  • Anhwylder Bwyta Amhenodol (EDNOS)
    Os nad oes modd adnabod ymddygiad bwyta unigolion yn unol ag un o’r tri anhwylder a nodir uchod, yn aml fe ystyrir fod ganddynt Anhwylder Bwyta Amhenodol (‘Eating Disorder Not Otherwise Specified’).
  • Orthorecsia
    Mae Orthorecsia’n cael ei ddiffinio fel obsesiwn â bwyta’n iach. Mae symptomau Orthorecsia yn cynnwys torri allan grwpiau bwyd cyfan o’r diet er mwyn dileu unrhyw fwydydd nad ydynt yn ‘bur’, meddyliau afresymol a dewis bwyd ar sail eu purdeb yn hytrach na phleser. (darllen rhagor am Orthorecsia)
  • Diabwlimia
    Anhwylder bwyta lle mae pobl sydd â chlefyd y siwgr math 1 yn rhoi llai o inswlin nag sydd ei angen arnynt, neu yn rhoi’r gorau i’w gymryd yn gyfan gwbl, er mwyn colli pwysau.

Cyngor i bobl sydd ag anhwylderau bwyta

  • Siaradwch. Does dim ots gyda pwy, cyn belled eich bod yn ymddiried ynddyn nhw. Gallent fod yn rieni, yn ffrind, yn bartner neu’n athro/cydweithiwr – bydd y syniad o ymweld â’r meddyg yn teimlo’n haws gyda’u cymorth nhw.
  • Byddwch yn amyneddgar. Dydi gwella o anhwylder bwyta ddim yn hawdd, ac fe fydd yn cymryd amser.  Mae’n bwysig nad ydych yn digalonni nac yn flin gyda chi’ch hun petaech yn cael relapse.
  • Buddsoddwch mewn diddordebau. Ceisiwch wneud amser i wneud y pethau sy’n eich diddori chi. Gall hyn helpu i gadw eich meddwl yn brysur.
  • Dysgwch am eich cyflwr. Gwnewch yr ymdrech i addysgu eich hunain cymaint ag y gallwch am anhwylderau bwyta. Mae ystod eang o wybodaeth ar gael mewn llyfrau ac ar wefannau.
  • Cofiwch nad ydych ar eich pen eich hun. Yn aml mewn amgylchiadau lle rydym yn teimlo nad oes neb o’n cwmpas yn deall, gall fod yn gysur mawr gwybod nad ydych ar eich pen eich hun. Mae grwpiau ar-lein i’w cael os ydych yn dymuno siarad ag eraill sydd wedi cael profiadau tebyg – mae’r elusen BEAT yn cynnal cymunedau ar-lein i unrhyw un.

Cyngor i deuluoedd, partneriaid a gofalwyr

Os oes rhywun agos atoch yn dweud wrthych fod ganddynt anhwylder bwyta, byddwch yn ofalus wrth ymateb. Mae’n anodd iawn cyfaddef a gofyn am gymorth, felly ceisiwch beidio gwylltio na chynhyrfu. Byddwch yn barod i wrando a chefnogi, a gwnewch eich gorau i ddeall.

  • Mae pawb yn wahanol ac felly mae profiadau pob unigolyn yn wahanol. Peidiwch â cheisio dyfalu’r hyn sy’n gweithio. Gofynnwch beth sy’n ddefnyddiol iddynt a beth na hoffen nhw i chi ei wneud.
  • Ceisiwch gynnig cyfleoedd cymdeithasol iddyn nhw, a pheidiwch â pheidio a’u gwahodd oherwydd nad ydynt yn derbyn y gwahoddiad bob amser.
  • Osgowch wneud sylwadau am bwysau nac edrych yn ‘iachach’ – gall unigolion sy’n dioddef o anhwylderau bwyta ganolbwyntio’n helaeth ar edrychiad ac felly dylid ceisio tynnu’r sylw oddi ar hynny’n llwyr.
  • Byddwch yn amyneddgar. Ar adegau, mae’n bosib na fydd unigolion ag anhwylderau bwyta yn croesawu’ch cymorth, nac yn barod amdano. Cofiwch ar yr adeg yma mai’r anhwylder sy’n siarad, nid y person ac mae’ch amynedd yn hollbwysig.

Dolenni allanol

Ffynonellau: Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol, Mind a Bwrdd Iechyd Hywel Dda