Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol

Obsessive Compulsive Disorder (OCD)

Mae Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol (OCD) yn fath o anhwylder gorbryder sy’n achosi meddyliau obsesiynol ac ymddygiad cymhellol. Mae obsesiynau yn feddyliau ailadroddus y gellir eu gweld yn afresymol, ond na ellir eu hanwybyddu. Gall fod yn ddifrifol, ond fe ellir ei drin.

Gellir dweud bod gan yr anhwylder dair nodwedd: y meddyliau sy’n achosi pryder i bobl (obsesiynau), y gorbryder y mae pobl yn ei deimlo, a’r hyn y mae pobl yn ei wneud er mwyn lleddfu eu pryder (gorfodaethau). Enghraifft gyffredin o hyn yw pan fydd pobl yn glanhau yn ddiymollwng er mwyn lleihau’r pryder sy’n deillio o ofn obsesiynol meicrobau a haint.

Mae gan y rhan fwyaf o bobl ffyrdd penodol i wneud pethau ac i bryderu yn eu cylch. Serch hynny, mae’r rhai sy’n byw gydag OCD yn tueddu i ganfod bod eu hobsesiynau a’u gorfodaethau yn eu gwanhau’n ddybryd, yn meddiannu eu bywyd a’u bod yn rhoi gofynion a baich annifyr arnynt.

Bydd pobl ag OCD yn profi meddyliau, delweddau neu deimladau ailadroddus sy’n drallodus. Maent yn cyflawni defodau neu arferion (gorfodaethau) sy’n gwneud iddynt deimlo’n well am ychydig. Gall defodau OCD fod yn amlwg i bobl eraill (fel gwirio cloeon drws) neu gallent ddigwydd yn eich pen (fel cyfrif neu geisio gwrthsefyll meddyliau negyddol gyda rhai cadarnhaol).

Daw meddyliau ymwthiol i ran pawb ond nid ydynt yn golygu bod OCD arnoch. I bobl sy’n byw â’r cyflwr, gall y meddyliau hyn beri straen a gorbryder enfawr i’r unigolyn. 

Daw meddyliau OCD ymhob lliw a llun, ond yn aml maent yn cylchdroi o amgylch pethau fel perygl, baw a halogiad, neu bryderon ynghylch rhywioldeb neu grefydd.

Symptomau OCD

Gallech deimlo:

  • ofn haint
  • ofn niweidio rhywun arall
  • ofn ymddwyn yn annerbyniol
  • angen cymesuredd a manwl gywirdeb
  • eich meddwl yn cael ei ‘feddiannau’ gan feddyliau erchyll dro ar ôl tro
  • yn ofnus, wedi’ch ffieiddio, yn euog, yn ddagreuol, yn betrus neu’n isel
  • cymhelliad pwerus i wneud rhywbeth i atal y teimladau
  • rhyddhad dros dro ar ôl cyflawni defodau
  • yr angen i ofyn am sicrwydd neu i gael pobl i gadarnhau pethau i chi

Beth i’w wneud

Os ydych yn meddwl bod OCD yn effeithio arnoch, mae’n bwysig siarad â’ch meddyg teulu. Mae’n bwysig i  chi beidio â cheisio ei reoli eich hunan, gan fod ar OCD fel arfer angen triniaeth er mwyn gwella.

Mae pobl yn gallu gwella drwy ymgymryd â math o therapi o’r enw Atal Ymateb yn sgil Dangos (Exposure Response Prevention), lle’r ydych yn wynebu’r hyn sy’n codi ofn arnoch dro ar ôl dro, heb ddefnyddio unrhyw ddefodau. Drwy ailadrodd hyn, rydych yn gorfodi eich meddwl i weld pethau’n wahanol. Wrth gwrs, mae hyn yn amrywio’n dibynnu ar y math o OCD sydd gennych, ac mae Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT) a meddyginiaeth hefyd yn gallu bod o gymorth.

Mae’n bosibl na fydd meddyliau ymwthiol ac obsesiynol rhai yn dod i ben yn llwyr. Yn hytrach na’u gwaredu’n hollol, mae gwella OCD yn golygu ei reoli. Nid yw hynny’n golygu nad oes modd i chi fyw yn hapus ac yn iach. Drwy ymroi i driniaeth ac i arferion cadarnhaol yn eich ffordd o fyw, gallwch fagu hyder ac ymdeimlad o ryddid. Hyd yn oed os bydd rhywfaint o orbryder yn parhau, ni fydd y cyflwr yn eich llethu yn yr un modd am byth.

Mathau o Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol

Mae nifer o wahanol fathau o Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol i gael:

  • OCD Perthnasau
  • OCD Niweidio
  • OCD Rhywioldeb
  • OCD Halogiad
  • OCD Paedoffilia
  • OCD Somatig
  • OCD Hunanladdol
  • OCD Crefyddol
  • OCD Cyfrifoldeb
  • OCD Dirfodol
  • OCD Halogiad Metaffisegol
  • OCD Pur a meddyliau ymwthgar

Darllen rhagor am fathau gwahanol o OCD

Dolenni allanol

Ffynonellau: Young Minds, See Me Scotland ac intrusivethoughts.org