Profedigaeth a Galar

profedigaeth1Fel arfer mae marwolaeth rhywun sy’n agos yn sioc, ac mae’n arbennig o ddifrodus pan ei fod yn digwydd yn annisgwyl. 

Hefyd, yn aml rydym yn amharod ar gyfer rhai o’r teimladau rhyfedd a brofwn yn yr wythnosau a’r misoedd sy’n dilyn profedigaeth.

Mae galaru’n beth sy’n eich blino’n emosiynol ac yn gorfforol. Mae’n bosib y
byddwch yn profi teimladau sydd bron yn annioddefol o boenus o ganlyniad i’ch colled, yn ogystal â thristwch ac unigrwydd. Ar adegau, mae’n bosib y byddwch yn cynhyrfu ac yn methu canolbwyntio nac ymlacio, ac ar adegau
eraill byddwch yn ddiegni ac wedi blino’n lân neu’n sigledig, yn sâl neu’n anhwylus. Mae cael trafferth cysgu yn eithaf cyffredin hefyd yn dilyn profedigaeth.

Efallai eich bod yn pryderu am sut fyddwch chi’n ymdopi heb y person sydd wedi marw, a gall y byd deimlo’n lle anniogel iawn yn sydyn. Mae rhai pobl yn teimlo fel crio ac yn crio llawer yn dilyn profedigaeth, tra bydd eraill yn torri allan i wylo mewn pyliau sydyn, dwys ac afreolus. Mae rhai pobl yn ei chael hi’n anodd crio, neu maent yn teimlo eu bod tu hwnt i grio.

Yn ogystal, mae nifer o ymatebion cyffredin eraill a fydd yn fwy dryslyd i chi, o bosib. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Anghrediniaeth
  • Dicter
  • Euogrwydd
  • Rhyddhad
  • Sefyllfaoedd a digwyddiadau’n troi a throi yn y meddwl

Peidiwch â disgwyl gormod oddi wrthych chi’ch hunan yn rhy gyflym.  Mae galaru’n beth sy’n cymryd amser ac mae’n gallu bod yn broses flinedig.   Derbyniwch unrhyw gymorth a gynigir, ac osgowch sefyllfaoedd ingol cymaint ag y medrwch chi.

[testun o WWAMH]

Rhagor o wybodaeth

Myfyrdodau perthnasol

“Wrth gwrs, mae galar yn gallu cael effaith sylweddol ar eich iechyd meddwl. Mae’n achosi teimlad o unigrwydd llethol, ac mewn rhai achosion, mae hynny’n gallu datblygu i iselder. Ma’ gorfod dysgu byw heb rywun oedda chi’n meddwl y byd ohonyn nhw, a mynd yn ôl i normal yn uffernol o tough.” (darllen mwy)

“Nes i fyth wir atgyfodi ar ôl colli ffrind mewn damwain car ar ddiwedd 2013, ac roeddwn yn stryglo gyda bron popeth. Roedd safon fy ngwaith a fy ngallu i ganolbwyntio ar unrhyw beth yn sylweddol is, ac roeddwn yn flinedig ac heb mynadd yn weddol gyson. Ar y blwyddiant cyntaf, mi oeddwn i’n sâl iawn am gyfnod go sylweddol er enghraifft. Erbyn wythnos cyn yr ail blwyddiant, ro’n i mewn cyflwr waeth hyd yn oed…Mae’n eitha debyg bydd atgofion melys o Mared, a’r trychineb, ill ddau’n aros gyda fi am byth. Ond mae’n ymdrech mawr i ddod dros yr ail un.” (darllen mwy)

Rhannu