Cymorth ar frys mewn argyfwng

Os ydych chi’n teimlo y gallech chi geisio lladd eich hun, neu os ydych chi wedi niweidio eich hun yn ddifrifol, dylech gael cymorth meddygol ar frys:

  • ffoniwch 999 am ambiwlans
  • Ewch i Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys (A+E) lleol
  • Ffoniwch eich tîm argyfwng lleol, os yw eu rhif gennych chi

Os na allwch wneud hyn ar eich pen eich hun, gofynnwch i rywun eich helpu. Mae argyfyngau iechyd meddwl yn ddifrifol. Dydych chi ddim yn gwastraffu amser unrhyw un.

Os gallwch chi gadw’ch hunan yn ddiogel am ychydig, ond rydych chi’n dal angen cyngor brys:

Siarad gyda rhywun ar unwaith

Mae’r gwasanaethau hyn ar gyfer unrhyw un sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi. Fyddan nhw ddim yn eich barnu. Maen nhw i gyd am ddim, yn anhysbys, ac ar agor bob amser.

Teimladau hunanladdol – Sut alla i ymdopi nawr?

Mae’r dudalen yma ar wefan Mind yn egluro beth yw teimladau hunanladdol a beth allwch chi ei wneud. Mae hefyd yn trafod achosion, triniaethau ac opsiynau cymorth ar gyfer teimladau hunanladdol.

Ffynhonnell: ‘Sut i gael help mewn argyfwng’ Mind Cymru