Yoga

Yn ein byd modern prysur, mae llawer o bobl yn ‘gollwng fynd’ i ymarfer yoga – system o athroniaeth yn wreiddiol o’r India. Gall pawb ymarfer yoga waeth beth yw eu hoedran, rhyw neu allu.

Mae yoga’n cynnig cyflwyniad cyfannol i’r corff, y meddwl a’r ysbryd trwy roi’r modd i ni ddelio â heriau dyddiol bywyd. Gall yoga hefyd ategu’r gwyddorau meddygol a’r triniaethau ar gyfer cyflyrau penodol.

Mae’n bosibl mai cael eich denu at yoga ar gyfer iechyd a lles a wnewch, neu eich bod yn chwilio am gymorth i oresgyn cyflwr corfforol penodol. Efallai eich bod angen cymorth i reoli straen, dosbarthiadau yoga ar gyfer beichiogi neu ymarferion arbennig ar gyfer rhai llai abl.

Yn eich dosbarth yoga efallai dewch yn ymwybodol o deimlad o wellhad cyffredinol a’r budd sydd i gael o heddwch mewnol.

(Ffynhonnell: yogaibawb.org)