Sefydlogyddion hwyliau
Mood stabilisers
Defnyddir sefydlogyddion hwyliau i helpu sefydlogi a rheoli eich hwyliau os cewch hwyliau cyfnewidiol eithafol.
Fel arfer cânt eu rhagnodi ar gyfer anhwylder deubegwn, anhwylder sgitsoaffeithiol, anhwylderau personoliaeth ac iselder.
Lithiwm
Defnyddir lithiwm fel triniaeth hirdymor ar gyfer mania. Gall leihau pa mor aml y cewch episod o fania a pha mor difrifol ydynt. Gellir ei gymryd ar ffurf tabled neu hylif.
Valproate
Defnyddir Valproate i drin episodau o fania ac hefyd fel triniaeth hirdymor.
Lamotrigine
Gall Lamotrigine, neu Lamictal, drin anhwylder deubegwn pan mai iselder yw’r prif broblem.
Gwrthseicotigau
Gall meddyginiaeth gwrthseicotig helpu trin hwyliau. Defnyddir y math hwn o feddyginiaeth yn bennaf i drin symptomau o seicosis. Gellid defnyddio rhai o’r gwrthseicotigau mwyaf newydd i drin anhwylder deubegwn.
Mae gan Mind a YoungMinds rhagor o wybodaeth am y meddyginiaethau unigol.
Dolenni allanol
- Lithium and other mood stabilisers : Mind (Saesneg)
- Mood stabilisers : Rethink (Saesneg)
- Medications : Young Minds (Saesneg)