Triniaethau

Mae nifer o driniaethau effeithiol ar gael, ond nid oes un driniaeth sy’n iawn i bawb. Mae’n bwysig eich bod yn trafod gyda gweithiwr iechyd proffesiynol i ddod o hyd i driniaeth sy’n gweithio i chi.

Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT)

Therapi sydd wedi ei selio ar y ffordd ‘rydym yn meddwl a/neu’r ffordd ‘rydym yn ymddwyn.

Therapi Ymddygiad Dialectig (DBT)

Math o therapi siarad sy’n ceisio eich helpu i ymdopi ag emosiynau anodd.

Therapïau Creadigol

Defnydd o’r celfyddydau creadigol mewn awyrgylch therapiwtig gyda therapyddion cymwysedig.

Therapïau Cyflenwol ac Amgen

Mae therapïau cyflenwol ac amgen yn cymryd ymagwedd holistig i’ch iechyd corfforol a meddyliol.

Therapïau seicdreiddio a seicodynamig

Yn seiliedig ar y meddyliau a chanfyddiadau sydd gennym yn ddiarwybod i ni.

Therapïau siarad

Math o driniaeth sy’n cynnwys siarad gydag arbenigwr proffesiynol am eich meddyliau, eich teimladau a’ch ymddygiadau.

Ysbyty

Mewn rhai achosion gall meddygon proffesiynol benderfynu bod angen i ni dreulio cyfnod mewn ysbyty er mwyn sicrhau’r cyfle gorau am wellhad llawn.