Dod oddi ar feddyginiaeth

Coming off medication

Beth os ydw i eisiau rhoi’r gorau i gymryd fy meddyginiaeth?

Cyn dod oddi ar unrhyw feddyginiaeth, mae’n bwysig gwneud yn siŵr bod gennych yr holl wybodaeth a’r cymorth sydd ei angen er mwyn gwneud hynny’n ddiogel. Os byddwch yn penderfynu eich bod am stopio cymryd eich meddyginiaeth, dylech:

  • Osgoi stopio’n sydyn
  • Trafod gyda rhywun rydych chi’n ymddiried ynddynt (yn ddelfrydol, eich meddyg)
  • Os yn bosibl, gofynnwch am help gan grŵp cymorth

Po hiraf rydych wedi bod yn cymryd cyffur, y mwyaf tebygol y byddwch yn profi effeithiau diddyfnu (withdrawal effects) ac yn ei chael hi’n anodd rhoi’r gorau iddo. Efallai y bydd angen i chi leihau y dos yn araf er mwyn lleihau’r effeithiau hyn.

Beth yw’r peryglon o ddod oddi ar feddyginiaeth yn sydyn?

Y prif risgiau yw:

  • Effeithiau annymunol – rydych yn fwy tebygol o brofi effeithiau diddyfnu os byddwch yn stopio yn sydyn.
  • Perygl i’ch iechyd – gyda rhai cyffuriau, gall effeithiau diddyfnu fod yn beryglus os ydych wedi bod yn eu cymryd am fwy na 2-3 mis. Mae’r rhain yn cynnwys tawelyddion lithiwm, clozapin a bensodiasepin.
  • Gall eich symptomau ddod yn ôl.

Wedi dweud hyn, mae rhai pobl yn darganfod bod modd iddynt stopio cymryd cyffur yn sydyn, hyd yn oed ar ôl iddynt fod arno am gyfnod hir, heb unrhyw effeithiau andwyol o gwbl.

Ffynhonnell: Mind