Therapi Celf

Art therapy

Mae therapi celf yn fath o therapi seicolegol sy’n defnyddio celf i helpu pobl i archwilio eu meddyliau a’u hemosiynau mewn ffordd unigryw. Mae’r math hwn o therapi yn eich helpu i fynegi emosiynau sy’n anodd eu mynegi mewn geiriau. Nid oes angen profiad na sgiliau celf arnoch, oherwydd ni fydd eich gwaith yn cael ei feirniadu – y nod yw mynegi a theimlo emosiynau drwy’r broses.

Lliwio

Mae ymchwil yn awgrymu y gall lliwio, a therapi celf yn gyffredinol, fod yn fuddiol iawn i bobl o bob oed. Yn ogystal â rhoi egwyl a chyfle i chi ymlacio, gall lliwio helpu drwy:

  • Codi eich hwyliau a lleihau lefelau gorbryder a straen;
  • Eich annog i ddatblygu technegau ymdopi positif ac ymlaciol i ddelio â meddyliau a theimladau anodd;
  • Tynnu eich sylw oddi ar feddyliau negyddol a phryderus.

 Taflenni lliwio i’w hargraffu am ddim

(Ffynonellau: Counselling Directory, happiful.com)