teulu a ffrindiau

teuluGallwch roi cymorth i ffrind neu aelod o’r teulu drwy adnabod arwyddion problemau iechyd meddwl a’u cysylltu gyda’r sawl gall roi cymorth proffesiynol.

Gall siarad â ffrindiau a theulu am broblemau iechyd meddwl fod yn gyfle i ddarparu gwybodaeth, cefnogaeth, ac arweiniad.


 Ydych chi’n poeni am rywun?

Os ydych yn poeni am iechyd meddwl ffrind, perthynas neu rywun annwyl, a dydych chi ddim yn gwybod beth i’w wneud, mae cyngor isod ar sut i ddechrau sgwrs anodd.

Ceisiwch eu cael nhw i siarad â chi.

  • Yn aml mae pobl eisiau siarad, ond maen nhw’n aros i rywun ofyn sut y maen nhw. Ceisiwch ofyn cwestiynau agored, fel ‘Beth ddigwyddodd am ……’, ‘Dywedwch wrtha i am ……’, ‘Sut ydych chi’n teimlo am……’
  • Ailadroddwch yr hyn maen nhw’n ei ddweud i ddangos eich bod yn deall, ac wedyn gofynnwch fwy o gwestiynau.
  • Canolbwyntiwch ar deimladau eich ffrind yn hytrach na cheisio datrys y broblem. Gall hyn fod yn fwy o gymorth a bydd yn dangos bod ots gyda chi.
  • Rhaid parchu’r hyn maen nhw’n ei ddweud wrthoch chi. Weithiau mae’n hawdd ceisio trwsio problemau pobl, neu roi cyngor iddynt. Gadewch iddynt wneud eu penderfyniadau eu hunain.

Sut gallaf helpu rhywun arall i ofyn am help?

Bydd y rhan fwyaf o bobl sy’n dioddef problem iechyd meddwl yn siarad â’i ffrindiau a theulu cyn siarad â gweithiwr iechyd proffesiynol, felly gall y cymorth rydych yn ei gynnig fod yn werthfawr iawn. Mae gan Mind ganllaw ar sut i gynnig cymorth emosiynol ac ymarferol, beth i’w wneud mewn argyfwng, a sut i sicrhau eich bod yn gofalu am eich hun.

Sut y gallaf helpu rhywun arall i ofyn am help? (Mind)


23414323_10155753919635011_1591827808_nSut mae modd i mi gychwyn sgwrs gyda rhywun rwy’n poeni amdanynt?

Efallai eich bod yn teimlo nad ydych yn gwybod sut i helpu rhywun, oherwydd nad ydych yn gwybod beth i ddweud wrthynt neu sut i ddatrys eu problemau. Nid oes angen i chi fod yn arbenigwr.

Chwiliwch am amser da a lle da
Dewiswch rywle lle mae’r person arall yn teimlo’n gyfforddus a bod amser ganddynt i siarad.

Gofynnwch gwestiynau caredig, a gwrandewch yn ofalus
Efallai eich bod yn teimlo nad ydych yn gwybod sut i helpu rhywun, oherwydd nad ydych yn gwybod beth i’w ddweud wrthynt. Ond ni ddylech ddweud unrhyw beth wrthynt. Y ffordd orau i helpu yw gofyn cwestiynau. Wrth i chi ofyn cwestiynau, bydd y bobl yr ydych yn siarad â nhw yn darganfod eu hatebion eu hunain.

Mae cwestiynau agored yn well

  • Pryd – ‘Pryd wnaethoch chi sylweddoli?’
  • Ble – ‘Ble wnaeth hynny ddigwydd?’
  • Beth – ‘Beth arall ddigwyddodd?’
  • Sut – ‘Sut roedd hynny’n teimlo?’
  • Pam – byddwch yn ofalus gyda hon achos gall wneud rhywun yn amddiffynnol.

Gwnewch yn siŵr eu bod yn gwybod ble mae help ar gael
Os ydy rywun wedi teimlo’n isel eu hysbryd am beth amser, mae’n debyg ei bod yn syniad da iddynt gael cymorth, gan siarad â rhywun fel cwnselydd neu gael cymorth ymarferol. Mae cwestiynau defnyddiol y gallech ofyn iddynt megis:

  • ‘Oes modd i chi fynd at rywun rydych chi’n ymddiried ynddynt?’
  • ‘Ydych chi wedi siarad â rhywun arall am hyn?’
  • ‘Hoffech chi gael help?’
  • ‘Fyddech chi’n hoffi imi i ddod gyda chi?’
  • ‘Os bydd yn helpu, gallwch siarad â mi unrhyw bryd.’

Darllen rhagor : Sut mae dechrau sgwrs anodd?


Cymorth i frodyr a chwiorydd

Os ydy dy frawd neu dy chwaer newydd gael diagnosis o salwch meddwl, neu os ydy dy deulu wedi bod yn byw gyda salwch meddwl ers peth amser bellach, mae hi’n debygol fod gen ti dipyn o gwestiynau a phryderon.

Efallai y byddi di’n profi amrywiaeth o emosiynau neu faterion ymarferol pan fo dy frawd neu dy chwaer yn dangos symptomau o salwch meddwl, neu pan fo ganddyn nhw salwch meddwl. Mae’r rhain yn debygol o newid wrth i ti fynd yn hŷn ac wrth i amgylchiadau newid. Mae hi’n bwysig cofio nad wyt ti ar dy ben dy hun.

Darllen rhagor : Cymorth i frodyr a chwiorydd


Rhieni sydd â phroblem iechyd meddwl

Gall byw gyda rhiant sydd â salwch neu gyflwr iechyd meddwl beri i chi deimlo’n ddryslyd, yn ddig ac yn ddiymadferth.

Mae’n debyg y bydd hynny’n effeithio ar eich bywyd gartref ac ar eich bywyd personol a gall ddigwydd y byddwch yn gorfod gofalu am les eich rhiant.

Os yw’ch rhiant yn ymddwyn yn afresymol neu’n od, rydych chi’n debygol o deimlo’n ofnus ac yn ansicr o beth i’w wneud.

Darllen rhagor : Rhieni sydd â phroblem iechyd meddwl


Sut alla i helpu fy mhlentyn?23364804_10155753919485011_1626299631_n

Gall darganfod bod plentyn yn cael trafferth ymdopi fod yn ofidus i rieni. Mae siarad â’ch plentyn mewn ffordd dderbyniol ac agored yn gam pwysig er mwyn goresgyn y sefyllfa.

Gwrandewch yn ofalus ar yr hyn maent yn ei ddweud
Gofynnwch sut y maent yn teimlo. Os byddwch yn ofalus ac yn ddigynnwrf mae’n iawn i drafod hunan-niweidio neu hunanladdiad.

Ceisiwch fod yn dderbyniol ac yn agored
Hysbyswch eich plentyn eich bod chi yna iddyn nhw, a’ch bod yn eu caru. Sicrhewch eu bod yn gwybod ei bod hi’n iawn i drafod eu gofidiau ac eich bod yn eu cefnogi.

Cynigiwch eu helpu
Gallwch gynnig cysylltu â Samaritans, meddyg teulu neu gwnselydd. Ceisiwch osgoi cymryd rheolaeth – mae nifer o bobl sy’n hunan-niweidio yn ei ddefnyddio fel ffordd o gael rhyw fath o reolaeth dros eu bywyd.

Peidiwch â’i chymryd hi’n bersonol
Efallai na fydd eich mab neu eich merch am siarad â chi gan eich bod yn rhy agos atynt. Os yw hyn yn wir, efallai byddwch am eu hannog i siarad â rhywun y maent yn teimlo’n gyfforddus â nhw.

Darllen rhagor : Sut alla i helpu fy mhlentyn?


Iselderhelpu iselder(1)

Gall cefnogaeth ffrindiau a theulu fod yn hynod o bwysig a gwerthfawr i rywun sy’n gwella o iselder. Dyma rai awgrymiadau ar sut gallwch chi helpu:

  • Eu cefnogi i gael cymorth
  • Bod yn agored am iselder
  • Gwrando
  • Cadw mewn cysylltiad
  • Peidio â beirniadu
  • Cadw cydbwysedd
  • Ceisio deall
  • Edrych ar ôl eich hun

Darllen rhagor : Iselder – sut alla’i helpu?


Gorbryder

Gall fod yn anodd pan fydd rhywun annwyl i chi yn profi gorbryder, ond mae pethau y gallwch chi eu gwneud i’w helpu.

  • Peidiwch â rhoi pwysau arnynt
  • Ceisiwch ddeall
  • Gofynnwch sut gallwch chi helpu
  • Cefnogwch nhw i gael cymorth

Darllen rhagor : Gorbryder – sut alla’i helpu?


Pwl o banig

Gall fod yn anodd pan fydd rhywun annwyl i chi yn cael pwl o banig – yn enwedig os yw’n digwydd heb rybudd. P’un ai ydynt yn ddieithryn ar y trên neu yn ffrind agos i chi, mae pethau y gallwch chi eu gwneud i’w helpu.

  • Peidio â chynhyrfu
  • Gadael iddynt wybod eich bod chi yno iddyn nhw
  • Eu hannog i eistedd i lawr mewn man tawel tan eu bod yn teimlo’n well
  • Eu cysuro
  • Gofyn sut allwch chi helpu
  • Eu hannog i anadlu’n araf ac yn ddwfn
  • Cynnig rhywbeth sy’n tynnu eu sylw
  • Aros gyda nhw a bod yn amyneddgar

Darllen rhagor : Pwl 0 banig – sut alla’i helpu?


Straen

Os oes rhywun rydych chi’n agos ato o dan straen, mae llawer o bethau ymarferol rydych chi’n gallu eu gwneud er mwyn eu cynorthwyo nhw – er gwaetha’r ffaith nad ydych chi’n debygol o allu newid y sefyllfa y maen nhw ynddi.

  • Eu helpu i ystyried a oes straen arnynt
  • Gwrando ar sut maen nhw’n teimlo
  • Eu sicrhau bod sefyllfaoedd straenus yn debygol o basio
  • Eu helpu i fynd i’r afael â rhai achosion straen
  • Eu helpu i ddysgu ac ymarfer technegau ymlacio
  • Eu cefnogi i chwilio am gymorth proffesiynol

Darllen rhagor : Straen – Sut alla’i helpu?


Anhwylder Bwyta

Efallai y byddwch yn teimlo’n bryderus iawn os ydych yn credu bod gan rywun yr ydych yn agos atynt broblem bwyta. Mae sawl peth defnyddiol y gallwch chi wneud:

  • Gadael iddynt wybod eich bod chi yna
  • Ceisio peidio â bod yn grac â nhw
  • Peidio â gwneud rhagdybiaethau
  • Cofio eu cynnwys mewn gweithgareddau cymdeithasol
  • Rhoi cymorth iddynt wrth ddod o hyd i wybodaeth dda
  • Eu hanog i chwilio am gymorth proffesiynol
  • Derbyn fod gwella’n broses hir
  • Cofio bod hyd yn oed derbyn bod ganddynt broblem yn cymryd amser
  • Peidio â chanolbwyntio ar eu delwedd a pheidi â gwneud sylwadau amdano

Darllen rhagor : Anhwylder Bwyta – Sut alla’i helpu?


PTSD 25530226_10155868429300011_803410429_n

Gall fod yn anodd iawn i weld rhywun annwyl i chi yn profi symptomau Anhwylder Straen wedi Trawma (PTSD). Mae’r erthygl hon yn cynnig rhai awgrymiadau ar gyfer ffyrdd y gallwch eu cefnogi tra’ch bod chi hefyd yn edrych ar ôl eich hunan.

  • Gwrandewch arnynt
  • Ceisiwch beidio â barnu
  • Dysgwch beth sydd yn cael effaith arnynt
  • Parchwch eu gofod personol
  • Gofalwch am eich hunan

Awgrymiadau ar gyfer helpu rhywun sy’n cael ôl-fflachiau:

  • ceisio aros yn ddigyffro
  • dweud wrthynt yn dyner eu bod yn cael ôl-fflachiau
  • osgoi gwneud unrhyw symudiadau sydyn
  • eu hannog i anadlu’n araf ac yn ddwfn
  • eu hannog i ddisgrifio eu hamgylchedd

Darllen rhagor : PTSD – Sut alla’i helpu?


OCD25519999_10155868438595011_503808446_n

Os oes rhywun sy’n agos i chi wedi cael diagnosis o Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol (OCD), gall fod yn anodd gwybod sut i’w cefnogi. Ond gall eich cefnogaeth a’ch dealltwriaeth chi wneud gwahaniaeth enfawr, ac mae ’na bethau y gallwch chi eu gwneud i helpu.

  • Byddwch yn agored am OCD
  • Byddwch yn amyneddgar
  • Peidiwch â cholli tymer, a pheidiwch â barnu
  • Dysgwch gymaint ag y gallwch am OCD
  • Dewch o hyd i ffyrdd o ddelio â’r ysfeydd gyda’ch gilydd
  • Helpwch nhw i gael mynediad i driniaeth
  • Gofalwch amdanoch eich hun

Darllen rhagor : OCD – Sut alla’i helpu?


Hunan-niweidio

P’un ai yw rhywun yn dweud wrthoch chi yn uniongyrchol, neu os ydych chi’n amau bod rhywun yn niweidio eu hunain, gall fod yn anodd gwybod beth i ddweud a sut i ymdrin â’r sefyllfa. Efallai eich bod yn teimlo sioc, yn flin, yn ddiymadferth, yn gyfrifol neu nifer o emosiynau anodd eraill.

  • Peidiwch â’u beirniadu.
  • Ceisiwch beidio â mynd i banig na gorymateb.
  • Gadewch iddynt wybod eich bod chi yno iddyn nhw ac yn barod i wrando.
  • Ceisiwch ddeall pam eu bod yn ei wneud.
  • Gadewch iddyn nhw reoli eu penderfyniadau.
  • Atgoffwch nhw o’u rhinweddau cadarnhaol a’r pethau maen nhw’n eu gwneud yn dda.
  • Dywedwch wrthynt, er nad ydych yn cymeradwyo eu hymddygiad, eich bod yn eu caru yn ddiamod.

Darllen rhagor : Hunan-niweidio – Sut alla’i helpu?


Blog : ‘Byw efo salwch mam’ – Anna Foulkes

‘Wrth gwrs, dwi’n dal i deimlo’n euog bron bob dydd, ydw i’n neud digon i helpu? Mae’r teimlad o euogrwydd ‘di newid mewn rhyw ffordd erbyn hyn, dwi’n teimlo’n euog am gario ‘mlaen efo mywyd i tra fod Mam yn styc mewn uffern, methu codi o’i gwely, methu gneud dim tra mai’r cwbl mae hi’n ei ddymuno ydi cael bod yn wraig ac yn nain unwaith eto. Ond mae iselder yn salwch mor greulon – er fod Mam yn beichio crio weithiau am ei bod hi’n deall ei bod hi’n wirioneddol sâl ac yn ysu i gael gwella, does ganddi ddim nerth ynddi i ‘neud iddi ei hun fwyta, i ‘neud iddi ei hun yfed dŵr, ac yn anffodus allwn ni fel ei theulu hi ddim ei gorfodi hi i fwyta ac yfed, er ein bod ni wedi trio a thrio. Felly, aros yn ei gwely mae hi, methu ffeindio’r cymhelliant i godi allan o’i gwely, a ninnau’n gwbl ddiymadferth yn y sefyllfa.’ (darllen rhagor)


Dolenni eraill

Rhannu